Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn galw am uwchgynhadledd economaidd Gymreig.
Dywed fod angen uwchgynhadledd “i helpu i ddyfeisio ymateb trawslywodraethol brys i’r argyfwng costau byw sy’n wynebu pobol a theuluoedd yn 2022″.
Noda fod “llawer o’r pwerau allweddol yn aros yn San Steffan” ond fod llawer y gallai Cymru ei wneud yn annibynnol er mwyn ymateb.
Mae ei syniadau yn cynnwys cap ar rent tai cymdeithasol a chyflwyno targedau ar gyfer diddymu tlodi tanwydd.
“Pan darodd yr argyfwng ariannol byd-eang, fe gynullodd Llywodraeth Cymru uwchgynhadledd economaidd frys i gyfuno syniadau ar yr hyn y gallem ni yng Nghymru ei wneud yn annibynnol ein hunain i ymateb,” meddai Adam Price.
“Nid gor-ddweud yw galw hyn yn argyfwng, ac mae llawer y gall Cymru ei wneud yn annibynnol i ymateb.
“Byddai’n naïf meddwl y byddai unrhyw un o’r camau hyn yn cywilyddio Boris Johnson i weithredu, ond gallai Uwchgynhadledd Gymdeithasol Cymru i gyfuno syniadau ar gyfer ymateb ar draws y Llywodraeth fod yn esiampl o obaith i lawer o bobol yng Nghymru ar adeg dywyll iawn.”
Llywodraeth Cymru “eisoes wedi cymryd camau”
“Ar draws Llywodraeth Cymru, rydym eisoes yn cymryd camau, boed honno’n gronfa cymorth aelwydydd gwerth £51m, a fydd yn cynnig cymorth gyda biliau tanwydd i deuluoedd yng Nghymru’r gaeaf hwn,” meddai Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wrth ymateb.
“Gyda’n hymrwymiad i leihau’r dreth gyngor, mae 60% o aelwydydd yng Nghymru yn cael cymorth drwy gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor.
“Drwy’r miliynau o bunnoedd yn ychwanegol yr ydym wedi’u rhoi yn y gronfa cymorth ddewisol; a thrwy’r camau yr ydym yn eu cymryd drwy ein cronfa gyngor sengl i wneud yn siŵr bod pobol yng Nghymru yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt pan fyddant yn hawlio’r pethau y mae ganddynt hawl iddynt.”