Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi lambastio Aelod o’r Senedd a’i chyhuddo o ddangos “ddiffyg empathi” tuag at bobol sy’n cael trafferth ymdopi â’r cynnydd mewn prisiau ynni.

Mewn neges ar Twitter, dywedodd Fay Jones, yr Aelod Ceidwadol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, fod “cynnig Llafur ar ynni cartref yn ceisio tanseilio ein democratiaeth”.

“Mae’n gwneud i’n Senedd edrych yn wirion,” meddai.

“Hefyd, byddai’n lleihau eich bil tanwydd o gwpwl o bunnoedd – hyd yn oed os ydych chi’n filiwnydd.

“Fydda i ddim yn pleidleisio drosto.”

Roedd y Blaid Lafur wedi cyflwyno mesur i ddileu treth ar werth ar filiau ynni, yn ogystal â chyflwyno treth dros dro ar gwmnïau olew a nwy Môr y Gogledd i ariannu’r gostyngiad mewn prisiau ynni.

Dywedodd Rachel Reeves, Canghellor yr wrthblaid, y byddai gwneud hynny’n caniatáu i’r rhai sydd â’r angen mwyaf arbed hyd at £600.

‘Diffyg empathi’

Ymatebodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, gan ddweud bod “yr agwedd a ddangoswyd gan Fay Jones dros y mater hwn yn dod drosodd fel un sy’n greulon”.

“Dylai fod yn fwy nag ymwybodol fod gan Bowys un o’r lefelau tlodi tanwydd uchaf yng Nghymru, sef 17%,” meddai.

“Mae ymchwil a ddatgelwyd gan fy mhlaid ddoe hefyd wedi dangos y bydd ymhlith y cynnydd gwaethaf mewn prisiau, gyda chynnydd o £753 y flwyddyn (neu £62 y mis) sy’n golygu y bydd Powys yn gweld y pedwerydd cynnydd uchaf yng Nghymru a’r chweched uchaf yn y Deyrnas Unedig.

“Ar hyd a lled ei hetholaeth, mae pobol, gan gynnwys yr henoed, yn ei chael hi’n anodd iawn talu eu biliau ac yn aml yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng gwresogi a bwyta.

“Byddai mesurau a gynigir gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn cymryd £300 y flwyddyn oddi ar filiau gwresogi tua 7.5m o aelwydydd bregus ac incwm isel ac yn cael eu hariannu gan dreth untro ar y cewri ynni. Nid yw’r hyn mae hi yn ei ddweud am ‘ychydig bunnoedd’ yn wir.

“Hyd yn oed pe bai hyn yn wir, i lawer o etholwyr Fay, mae ‘ychydig bunnoedd’ yn gwneud byd o wahaniaeth.

“Mae pob ceiniog yn cyfrif mewn aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd.

“Rwy’n siomedig iawn o weld AS Brycheiniog a Sir Faesyfed yn dangos y fath ddiffyg empathi, dealltwriaeth a synnwyr cyffredin dros y mater hwn.

“Yn amlwg i rai, mae diogelu elw cewri ynni byd-eang yn bwysicach nag atal miloedd rhag llithro i dlodi tanwydd.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydyn ni’n gwybod bod aelwydydd yn wynebu pwysau ariannol o ganlyniad i gostau ynni cynyddol a thoriadau i gymorth lles ac yn parhau i annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ystyried ehangu’r cynlluniau cymorth sydd ar gael i roi cymorth pellach ar unwaith i deuluoedd sydd dan bwysau,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni hefyd wedi lansio Cronfa Cymorth Aelwydydd gwerth £51m, sy’n cynnwys y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf gwerth £38m, i helpu aelwydydd incwm isel i gadw’n gynnes y gaeaf hwn.

“Yn ogystal, rydyn ni wedi darparu cyngor effeithlonrwydd ynni am ddim a diduedd i fwy na 160,000 o aelwydydd ers lansio’r Rhaglen Cartrefi Cynnes yn 2010 ac wedi helpu mwy na 67,000 o aelwydydd gyda mesurau effeithlonrwydd ynni yn y cartref.

“Byddwn hefyd yn parhau i ddarparu cymorth i bobl sy’n profi caledi ariannol eithafol drwy ein Cronfa Cymorth Dewisol.”

Cefndir

Mae prif weithredwr Centrica – darparwr gwasanaethau ac atebion ynni – Chris O’Shea, wedi rhybuddio y gallai’r argyfwng ynni bara am ddwy flynedd.

Wrth siarad â’r BBC, dywedodd fod “y farchnad yn awgrymu” y bydd prisiau nwy uchel yn parhau “am y 18 mis nesaf i ddwy flynedd”.

Dywedodd fod y galw mawr am nwy yn cael ei yrru’n rhannol gan symudiad i ffwrdd o lo ac olew.

“Wrth i ni symud tuag at sero net, mae nwy yn danwydd pontio mawr,” meddai.

“Ac felly wrth i chi ddiffodd gorsafoedd pŵer sy’n llosgi glo mewn gwledydd eraill, does dim digon o nwy y gallwch chi ei droi ymlaen yn gyflym.”

Ond fe wnaeth Chris O’Shea hefyd daflu dŵr oer ar y syniad o roi hwb i’r cyflenwad o Fôr y Gogledd fel ateb domestig i’r argyfwng.

“Rydym yn dod â nwy i mewn o’r Unol Daleithiau, o Norwy, o Ewrop, o Qatar, o leoedd eraill,” meddai.

“Felly nid ydym mewn sefyllfa i gael y Deyrnas Unedig fel marchnad ynni ynysig.

“Rydym yn rhan o farchnad fyd-eang.”