Mae’r chwaraewr tenis Novak Djokovic yn beio’i asiant am ei helynt fisa, ac yn cyfaddef iddo gael ei gyfweld gan newyddiadurwr ar ôl profi’n bositif am Covid-19.
Mae’n dweud iddo wneud camgymeriad wrth beidio â chanslo’r cyfweliad gyda’r papur newydd Ffrengig L’Equipe, ond yn dweud nad oedd e eisiau siomi’r newyddiadurwr drwy orfod canslo’r sgwrs.
Mewn datganiad ar ei dudalen Instagram, mae’n dweud iddo fynd i ddigwyddiad i blant ddiwrnod ar ôl profi’n bositif am y feirws, ond nad oedd e wedi cael canlyniad prawf PCR tan ar ôl y digwyddiad hwnnw’n cadarnhau’r canlyniad positif.
Mae’n dweud iddo ganslo pob digwyddiad arall ac eithrio’r cyfweliad yn Belgrade, gan ei fod yn teimlo “rheidrwydd” i wneud y cyfweliad hwnnw, ac mae’n pwysleisio iddo gadw pellter rhyngddo fe a’r newyddiadurwr a gwisgo mwgwd ac eithrio pan gafodd dynnu ei lun.
Mae’n dweud iddo gwblhau cyfnod o hunanynysu wedyn, ond fod y cyfan “yn gamgymeriad” ar ei ran e, ac mae’n cydnabod y dylai fod wedi gohirio’i ymrwymiadau.
Asiant dan y lach
Yn ei ddatganiad, mae Novak Djokovic hefyd yn trafod yr helynt fisa wrth iddo baratoi i chwarae ym Mhencampwriaeth Agored Awstralia.
Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd llys yn Awstralia fod anghysondebau yn ei gais am fisa, ac mae’r chwaraewr yn dweud mai ei asiant oedd yn gyfrifol am y “camgymeriad dynol”.
Mae’n dweud bod y cais wedi cael ei gyflwyno gan ei dîm ar ei ran, ac mae e wedi ymddiheuro am “gamgymeriad gweinyddol” pan gafodd tic ei roi yn y blwch anghywir wrth sôn am ei deithiau blaenorol cyn mynd i Awstralia.
Mae’n dweud nad oedd yn gamgymeriad “bwriadol”.
“Rydyn ni’n byw mewn amserau heriol yng nghanol pandemig byd-eang ac weithiau mae’r camgymeriadau hyn yn gallu codi,” meddai.
Does dim disgwyl penderfyniad ynghylch ei hawl i aros yn Awstralia heddiw (dydd Mercher, Ionawr 12).
Mae un o weinidogion Llywodraeth Awstralia wedi bod yn ystyried ymyrryd yn y ffrae ar ôl i Djokovic ennill achos llys yn erbyn Asiantaeth Ffiniau Awstralia.
Mae Djokovic wedi teithio i Awstralia i amddiffyn ei deitl, a fe yw’r prif ddetholyn ac wedi ennill y gystadleuaeth ym Melbourne naw gwaith.
Byddai degfed teitl yn golygu ei fod e wedi ennill un o’r prif gystadlaethau 21 o weithiau, sy’n fwy na record Rafael Nadal a Roger Federer.
Mae disgwyl iddo glywed fory (dydd Iau, Ionawr 13) pwy fydd ei wrthwynebydd cyntaf.