Mae Jonathan Davies yn credu y bydd Cymru dan “anfantais” os ydyn nhw’n chwarae gemau cartref heb dorfeydd eleni.
Mae cyfyngiadau coronafeirws Llywodraeth Cymru yn golygu y gallai gêm gartref cyntaf Cymru yn erbyn yr Alban ar 12 Chwefror ddigwydd y tu ôl i ddrysau caeedig, neu hyd yn oed tu hwnt i Glawdd Offa.
Mae Cymru hefyd i fod i groesawu Ffrainc a’r Eidal i Stadiwm Principality ym mis Mawrth
Ar hyn o bryd mae torfeydd yn Iwerddon a Ffrainc wedi’u capio ar 5,000, ond nid oes unrhyw gyfyngiadau yn Lloegr.
Bydd cyfyngiadau ar dorfeydd mewn digwyddiadau chwaraeon awyr agored yn yr Alban yn cael eu codi ddydd Llun nesaf ar ôl i derfyn o 500 gael ei osod dair wythnos yn ôl mewn ymdrech i ddelio â chynnyd yn nifer yr achosion o’r amrywiolyn Omicron.
Mae’n golygu y bydd Murrayfield yn gallu bod yn llawn ar gyfer ymweliadau gemau yn erbyn Lloegr a Ffrainc.
Mae cyfyngiadau presennol Cymru yn cael eu hadolygu gan Lywodraeth Cymru’n wythnosol – gyda chynhadledd i’w chynnal fory (dydd Gwener 14 Ionawr).
Dywedodd Jonathan Davies, y sylwebydd a chyn-chwaraewr Cymru mewn dau god: “Ar ôl profi Chwe Gwlad y llynedd heb dorfeydd, nid yw’r un peth.
“O ystyried bod pob gwlad arall yn cael torfeydd, rydych chi’n mynd i fod o dan anfantais os ydych chi’n chwarae mewn stadiwm wag ar gyfer eich gemau cartref.
“Mae’n brofiad ofnadwy pan ti’n chwarae heb dorfeydd.
“Bues i’n ffodus i chwarae am amser hir a chwarae o flaen torfeydd yw lle gewch chi’r cyffro a’r buzz yna.
“Mae’r bechgyn wrth eu bodd yn chwarae o flaen torfeydd ac mae’r bechgyn eisiau torfeydd.”