Mae Abertawe wedi arwyddo amddiffynnwr Gweriniaeth Iwerddon, Cyrus Christie, ar fenthyg gan Fulham.

Mae’r cytundeb, sy’n amodol ar gliriad rhyngwladol, yn golygu bod y gŵr 29 oed yn ymuno â’r Elyrch am weddill y tymor.

Fe wnaeth Christie dros 100 ymddangosiad i Coventry a Derby cyn ymuno â Middlesbrough yn 2017.

Symudodd i Fulham y flwyddyn ganlynol, lle mae wedi gwneud 68 ymddangosiad, a threuliodd dymor 2020-21 ar fenthyg yn Nottingham Forest.

Dywedodd Christie wrth wefan Abertawe: “Rwyf wrth fy modd gyda’r trosglwyddiad ac rwy’n hapus iawn i fod yma.

“Rwy’n edrych ymlaen at chwarae pêl-droed eto, siaradais â’r rheolwr [Russell Martin] ac fe wnaeth e’r penderfyniad drostaf i i bob pwrpas!

“Mae wedi bod yn gyfnod anodd yn ddiweddar lle nad wyf wedi gallu dangos fy ngallu.

“Mae’r cyfle wedi bod yn anodd i’w ffeindio, felly rwyf am ddod yma i ddangos fy ngallu a phrofi fy hun.

“Dwi eisiau helpu’r bechgyn i wthio fyny’r gynghrair ac mae hon yn gynghrair lle gall unrhyw beth ddigwydd, yn enwedig gyda’r gemau sydd gennym mewn llaw.”