Mae fisa’r chwaraewr tenis Novak Djokovic wedi cael ei ganslo gan Awstralia am yr eildro.
Mae’n golygu ei bod hi’n annhebygol bellach y bydd y Serbiad yn cael chwarae ym Mhencampwriaeth Tenis Agored Awstralia ym Melbourne.
Roedd e wedi bod yn aros ers y dyfarniad cyntaf ddydd Llun (Ionawr 10) i glywed a fyddai’r Gweinidog Mewnfudo Alex Hawke yn defnyddio pwerau arbennig i wyrdroi’r penderfyniad.
Daeth cadarnhad fod Hawke wedi penderfynu anfon Djokovic adref “am resymau iechyd”, gan fynnu bod y penderfyniad “er budd y cyhoedd”.
Glaniodd Djokovic yn Awstralia ar Ionawr 5 ar ôl cael ei eithrio rhag gorfod cael brechlyn gan Tennis Australia, a hynny ar sail y ffaith ei fod e eisoes wedi cael Covid-19.
Ond cafodd ei atal gan swyddogion ffiniau’r wlad a’i holi drwy’r nos, cyn cael gwybod fod ei fisa wedi’i ganslo, ac fe gafodd ei gludo i westy cwarantîn.
Apeliodd e yn erbyn y penderfyniad, ac fe wnaeth barnwr farnu o’i blaid ac roedd hi’n ymddangos y byddai’n cael chwarae yn y gystadleuaeth sy’n dechrau ddydd Llun (Ionawr 17).
Gallai Djokovic benderfynu lansio apêl eto fyth er mwyn cael amddiffyn ei deitl, wrth iddo fe gwrso 21ain Camp Lawn a degfed tlws Pencampwriaeth Agored Awstralia.
Mae dogfennau’n dangos ei fod e wedi profi’n bositif yn Serbia ar Ragfyr 16, ond cafodd ei lun ei gyhoeddi yn ei ddangos mewn digwyddiad yn y diwrnodau wedi’r prawf positif, ac fe gyfaddefodd yr wythnos hon ei fod e wedi cael ei gyfweld gan y papur newydd Ffrengig L’Equipe yn Belgrade er ei fod e’n gwybod ei fod e wedi profi’n bositif am Covid-19.
Mae e hefyd wedi cyfaddef fod dogfen wedi cael ei ffugio’n dweud nad oedd e wedi teithio yn y bythefnos cyn iddo fynd i Awstralia, ac mae’n beio’i asiant am hynny.