Mae un o bwyllgorau San Steffan wedi argymell y dylid atal arian cyhoeddus y byd criced oni bai bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â hiliaeth yn y gamp.
Daw hyn wrth i’r Pwyllgor Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gyhoeddi casgliadau eu hymchwiliad i honiadau gan Azeem Rafiq, cyn-chwaraewr Clwb Criced Swydd Efrog, sydd wedi chwythu’r chwiban ar broblem hiliaeth o fewn y gamp.
Dywedodd y pwyllgor eu bod nhw’n “argyhoeddedig” ynghylch yr honiadau wrth iddo roi tystiolaeth am ei ddau gyfnod gyda’r sir, gan fynnu bod hiliaeth yn “endemig” yn y byd criced.
Mae’r pwyllgor hefyd wedi mynegi pryder am ddiffyg cydweithio rhwng Swydd Efrog a Bwrdd Criced Cymru a Lloegr i fynd i’r afael â honiadau Rafiq, ac maen nhw’n dweud bod y ffaith fod Cynllun Gweithredu De Asia yn dangos bod yr awdurdodau’n ymwybodol o’r broblem.
Yn ôl y pwyllgor, roedd yr ieithwedd a gafodd ei defnyddio yn nhystiolaeth Rafiq ac mewn gohebiaeth i’r pwyllgor yn arwydd o broblem “ddofn” o fewn y byd criced.
Wrth ddod i gasgliad, dywedodd y pwyllgor y dylai arian cyhoeddus y byd criced fod yn ddibynnol ar “ddangos cynnydd parhaus” i fynd i’r afael â hiliaeth a’i ddileu, ac y dylai Bwrdd Criced Cymru a Lloegr greu cyfres o ddangosyddion i fesur eu cynnydd, a rhoi diweddariad chwarterol i’r pwyllgor seneddol.
Mae Swydd Efrog a Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wedi cael eu gwahodd i gyflwyno adroddiad ar gyfer chwarter cyntaf 2022.
Yn sgil yr helynt yn Swydd Efrog, camodd y cadeirydd Roger Hutton a’r prif weithredwr Mark Arthur o’r neilltu, gydag 16 o staff hyfforddi’r sir yn colli eu swyddi.
Mae’r pwyllgor wedi croesawu’r newidiadau a gafodd eu cyflwyno gan y cadeirydd newydd, yr Arglwydd Kamlesh Patel, ond maen nhw’n dweud nad ydyn nhw’n ddigonol heb gamau pellach i ddileu hiliaeth o’r clwb.
Croesawu’r adroddiad
Mae Azeem Rafiq wedi croesawu’r adroddiad, gan ddweud bod gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr ddyletswydd i ddileu hiliaeth o’r gamp.
Mae’n dweud ei bod hi’n “wych” fod y pwyllgor am ddwyn yr awdurdodau i gyfrif, sy’n dangos “pa mor ddifrifol mae gwleidyddion yn cymryd mater y gwnaeth gormod o bobol ei anwybyddu cyhyd”.
Mae’n dweud bod “y pwyllgor yn deall pa mor bwysig yw glanhau’r gamp”.
Mae Tom Harrison, prif weithredwr Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, yn croesawu’r “craffu”, gan ddweud ei fod yn “hyderus iawn” y gall yr awdurdodau ymateb yn gadarnhaol i’r pwyllgor, gan gydnabod fod gosod amodau ar arian cyhoeddus i’r gamp “yn briodol”.