Mae’r crwner sy’n ymchwilio i farwolaeth y pêl-droediwr Emiliano Sala yn ceisio cysylltu â’r asiant wnaeth helpu i drefnu hediad yr awyren a blymiodd i’r môr gan ladd yr Archentwr.

Mae Rachael Griffin wedi anfon gwahoddiad ysgrifenedig at Willie McKay yn y gobaith y bydd e’n rhoi tystiolaeth i’r cwest i’w farwolaeth.

Bu farw Sala, 28, a’r peilot David Ibbotson, 59, pan blymiodd yr awyren i’r Sianel fis Ionawr 2019.

Ar y pryd, roedd Sala yn destun trosglwyddiad gwerth £15m o Nantes yn Llydaw i Gaerdydd, ac roedd e’n teithio rhwng y ddwy ddinas pan gafodd ei ladd.

David Henderson, gweithredwr yr awyren, oedd wedi trefnu’r hediad ar y cyd â Willie McKay, sydd wedi derbyn e-bost a llythyr gan y crwner ond sydd heb ateb y naill na’r llall.

Dywed y crwner fod McKay yn “berson o ddiddordeb” i’r cwest, ac mae hi wedi gofyn i’r heddlu wirio a oes ganddi’r manylion cyswllt cywir ar ei gyfer.

Fel “person o ddiddordeb”, mae gan Willie McKay yr hawl i gymryd rhan yn y cwest, naill ai’n uniongyrchol neu drwy gyfreithiwr, drwy dderbyn tystiolaeth, holi tystion a chyflwyno tystiolaeth gyfreithiol i’r crwner.

Mae disgwyl i’r cwest ddechrau ar Chwefror 14 yn Bournemouth, ac mae disgwyl iddo bara tan fis Ebrill.

Cafodd David Henderson ei garcharu am 18 mis y llynedd ar ôl i lys ei gael yn euog o beryglu diogelwch yr awyren a cheisio trefnu hediad i deithiwr heb ganiatâd nac awdurdod.

Clywodd Llys y Goron nad oedd pwysau gan McKay ar Henderson i drefnu’r hediad, a’i fod e wedi trefnu’r daith am “fantais ariannol”.

Emiliano Sala: Trefnydd hediad yn euog o beryglu diogelwch yr awyren

Cafwyd David Henderson, 67, yn euog o’r cyhuddiad yn Llys y Goron Caerdydd heddiw (dydd Iau, Hydref 28)