Bydd torfeydd yn gallu dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon o ddydd Gwener nesaf, Ionawr 21, a bydd modd i gefnogwyr fynd i gemau gartref Cymru ym Mhencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad – cyn belled bod y nifer o achosion covid yn parhau i ostwng.
Mae’n golygu y bydd modd chwarae gemau rygbi’r Chwe Gwlad yng Nghymru gyda thorfeydd, ar ôl i Undeb Rygbi Cymru fod yn edrych ar y posibilrwydd o chwarae gemau cartref yn Lloegr ble nad oes cyfyngiadau mewn grym.
Bydd yr ornest gyntaf yn erbyn yr Alban ym mis Chwefror.
Dan y rheolau diweddaraf, bydd y nifer sy’n gallu cymryd rhan mewn digwyddiad yn yr awyr agored yn codi o 50 i 500 yfory, gyda Chymru’n dychwelyd i lefel rhybudd sero yr wythnos wedyn.
Ddydd Gwener, 28 Ionawr bydd Cymru’n dychwelyd i lefel rhybudd sero sy’n golygu y bydd pob safle yn gallu ailagor gan gynnwys clybiau nos a bydd modd croesawu torfeydd i stadiymau rygbi a ffwtbol.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn dychwelyd i adolygiadau bob tair wythnos.
Bydd pasys Covid yn parhau mewn grym.
Gemau’r Chwe Gwlad
Bu Mark Drakeford yn siarad ar BBC Radio Wales y bore yma (14 Ionawr), a phan ofynnwyd iddo a fyddai’r Chwe Gwlad yn gallu cael eu chwarae eleni, fe ddywedodd:
“Cyn belled â bod y niferoedd yn parhau i ostwng yna ar 28 Ionawr, byddwn yn symud i lefel rhybudd sero ar gyfer yr holl weithgareddau ac adeiladau dan do; clybiau nos yn gallu ailagor, mae angen pas Covid o hyd ar gyfer digwyddiadau mawr ac ar gyfer clybiau nos, sinemâu, theatrau ac yn y blaen a lletygarwch yn gallu gweithredu dan do fel y byddent wedi digwydd yn gynharach.”
Ond mae’n mynnu na fu unrhyw dro pedol gan Lywodraeth Cymru.
“Dyw hwn ddim yn ddull newydd o weithredu o gwbl,” meddai Mark Drakeford.
“Pan wnaethom ni gyflwyno’r cyfyngiadau newydd, dywedodd ein cynghorwyr gwyddonol wrthym y byddai angen i ni eu cael yn eu lle am bedair wythnos er mwyn iddynt gael yr effaith yr oeddem am iddynt eu cael.
“Mae’r pedair wythnos yna i fyny o ddydd Gwener yr wythnos nesaf. Dyna’r dyddiad y byddwn yn dechrau dychwelyd yn llawn at fesurau Lefel Rhybudd sero.
“Mae’r modelu’n dangos cynnydd cyflym iawn yn y coronafeirws a chwymp cyflym iawn. A dyna rydyn ni wedi’i weld yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
“Roedd y model yn gywir – rydym yn gweld cwymp cyflym, ac ar yr amod bod hynny’n cael ei gynnal, mae’n golygu, dros y pythefnos nesaf – yn y cam hwnnw gam wrth gam, yn ofalus – ein bod yn gallu dychwelyd i lefel fwy cymedrol o amddiffyniadau a gawsom cyn i don Omicron ein taro.”
Pwysau
Yr wythnos hon fe gyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y bydd hawl gan dorfeydd i ddychwelyd i stadiymau o ddydd Llun (17 Ionawr) gyda gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn cael eu cynnal ym Murrayfield.
Mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu beirniadaeth gan rhai aelodau o dîm rygbi Cymru ynghyd â’r cyn-chwaraewr rygbi a’r sylwebydd Jonathan Davies, oedd am weld y torfeydd yn cael dychwelyd.
“Ar ôl profi Chwe Gwlad y llynedd heb dorfeydd, dydy hi ddim yr un peth,” meddai Jonathan Davies, a hynny cyn cyhoeddiad Mark Drakeford ar y radio’r bore yma.
“O ystyried bod pob gwlad arall yn cael torfeydd, rydych chi’n mynd i fod o dan anfantais os ydych chi’n chwarae mewn stadiwm wag ar gyfer eich gemau cartref.
“Mae’n brofiad ofnadwy pan ti’n chwarae heb dorfeydd.”
Bydd y Prif Weinidog yn diweddaru’r cyhoedd mewn cynhadledd yn ddiweddarach heddiw (dydd Gwener, 14 Ionawr), lle mae disgwyl iddo gyhoeddi diwygiadau i’r mesurau sydd ar waith.