Mae’r dystiolaeth sy’n dangos bod y gyfradd heintio yn is yng Nghymru na Lloegr yn brawf o effeithiolrwydd cyfyngiadau covid Llywodraeth Cymru, meddai’r Prif Weinidog.

Dengys yr ystadegau bod nifer y bobl sydd â covid yn is yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, o gymharu gyda Lloegr.

Ac mewn cynhadledd amser cinio fe ddywedodd Mark Drakeford bod y cyfyngiadau diweddaraf wedi bod yn “Mini Firebreak”.

“Mae’r cynnydd yng Nghymru wedi bod yn llai na’r cynnydd yn Lloegr,” meddai’r Prif Weinidog.

“Mae’r cynnydd mewn achosion yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle mae’r cyfyngiadau wedi bod ar waith, yn is nag yn Lloegr.”

Mae’r nifer o achosion yng Nghymru wedi syrthio i’w nifer isaf ers Rhagfyr 27 –  1,492.4 ymhob 100,000 o bobl dros gyfnod o saith niwrnod.

Daw hyn wrth i’r Prif Weinidog amlinellu ei gynlluniau i godi cyfyngiadau covid yn “raddol ac yn ofalus” erbyn diwedd y mis.

Mae hyn am olygu bod y torfeydd am gael heidio i wylio gemau cartref Cymru ym Mhencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad, ar yr amod bod covid yn parhau i heintio llai o bobl.

Hefyd yn y gynhadledd fe gyfeiriodd Mark Drakeford at lwyddiant yr ymgyrch i ddosbarthu’r brechlyn atgyfnerthu sy’n ei alluogi i godi cyfyngiadau, gydag 1.8 miliwn wedi cael dos ychwanegol.

“Rwyf am ddiolch hefyd i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r rhaglen frechu am yr ymdrech aruthrol i roi pigiad atgyfnerthu i bron i draean o’r boblogaeth ers dechrau Rhagfyr – bu hyn yn allweddol i’n diogelu ymhellach rhag omicron.

“Mae’r hyn rydyn ni wedi’i wneud gyda’n gilydd wedi ein helpu i wynebu storm Omicron. Mae’r data diweddaraf yn rhoi arwyddion positif bod y gwaethaf o bosibl wedi mynd heibio,” meddai.

Torfeydd mawr i gael gwylio rygbi

Bydd y broses o lacio’r cyfyngiadau covid yn digwydd mewn pedwar cam, yn amodol ar achosion yn parhau yn isel:

Ond er y bydd Llywodraeth Cymru ar Lefel Rhybudd Sero o Ionawr 28, bydd gweithio o adref yn cael ei argymell ond ni fydd mwyach yn ofyniad cyfreithiol.

Bydd gofyn i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill gynnal asesiad risg penodol ar gyfer coronafeirws a chymryd camau rhesymol i leihau’r perygl o ledaenu covid.

Bydd Cymru hefyd yn dychwelyd at gylch adolygu tair wythnos o Ddydd Iau, 10 Chwefror.

Ond roedd y Prif Weinidog yn mynnu y gallai’r sefyllfa newid wrth i amrywiolion newydd ddod i’r amlwg.

Fe ddywedodd wrth orsaf radio LBC y bore yma: “Rhywle yn y byd heddiw – efallai y bydd yr amrywiolyn nesaf yn cyniwair.

“Pwy a ŵyr beth mae hynny’n ei olygu i ni… Does neb eisiau parhau i fynd drwy’r wythnosau ofnadwy yma ond ddylai neb gredu bod y bygythiad wedi diflannu”.

“Llafur wedi cael pethau’n anghywir”

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, yn dweud bod “Llafur wedi gwneud pethau’n anghywir” gyda’i dull gweithredu wrth ddelio ag Omicron.

 

Mae Plaid Cymru hefyd wedi galw ar weinidogion i sicrhau bod y rheolau yn “ymddangos yn deg” gan fynnu eu bod yn codi cyfyngiadau ar ddigwyddiadau chwaraeon fel Pencampwriaeth y Chwe Gwald a Parkruns.

O dan y rheolau, gorfodwyd gemau chwaraeon y tu ôl i ddrysau caeedig heb wylwyr, a chanslwyd digwyddiadau Parkrun gwirfoddol.

Ond fe fynnod Mark Drakeford yn ystod y gynhadledd nad tro pedol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw, gyda’r cyfyngiadau dros y Nadolig wedi bod yn “Mini Firebreak”.

Er bod y polisi profi wedi newid – gyda rhai sy’n profi’n bositif trwy brawf llif ochrol nad oes angen profion PCR arnynt mwyach – does dim modd esbonio’n llawn sut mae’r nifer o achosion wedi syrthio.

Gosododd Llywodraeth Cymru gyfyngiadau ar ddigwyddiadau a busnesau mawr ym mis Rhagfyr yn dilyn cynnydd mawr yn nifer yr achosion o Covid ym Mhrydain, a achoswyd gan yr amrywiolyn Omicron.

Caewyd clybiau nos gyda’r cyfyngiadau’n golygu bod digwyddiadau wedi’u cyfyngu i uchafswm o 50 o bobl yn yr awyr agored a 30 o bobl dan do.

Cyfyngwyd tafarndai a bwytai i wasanaeth bwrdd, gyda rheol chwech yn eu lle, tra bod angen i weithleoedd a siopau osod mesurau ymbellhau cymdeithasol.

Darllen rhagor

Disgwyl i gyfyngiadau gael eu codi’n “raddol ac yn ofalus” erbyn diwedd y mis

“Mae’n ymddangos ein bod ni wedi mynd heibio uchafbwynt Omicron, ac yn dod i lawr yn gyflym iawn,” meddai Mark Drakeford

Y Ceidwadwyr am i Lywodraeth Cymru ddileu cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru

Daw hyn wrth i Mark Drakeford ddiweddaru Cymru ar sefyllfa ddiweddaraf y pandemig Covid-19

Galw am ailystyried cyfyngiadau Covid-19 yn sgil canslo digwyddiadau Parkrun yng Nghymru

Mae Pennaeth Athletau Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ailystyried cyfyngiadau Covid-19 sydd wedi arwain at ganslo diwgyddiadau Parkrun