Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu’r cyfyngiadau Covid-19.

Daw hyn cyn i Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, gynnal cynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Gwener, Ionawr 14) i roi diweddariad am sefyllfa’r coronafeirws.

Ond mae’r Ceidwadwyr am weld cyfres o fesurau sydd yn eu lle yn cael eu dileu, gan gynnwys:

  • cael gwared ar gadw pellter o ddau fetr, a’r rheol chwech mewn lletygarwch yng Nghymru
  • dileu’r cyfyngiadau ar gefnogwyr chwaraeon a gweithgareddau awyr agored fel Parkrun;
  • sicrhau bod mwy o arian ar gael i’r busnesau sydd wedi dioddef oherwydd ymateb Llafur i Omicron;
  • lleihau’r cyfnod hunanynysu o saith i bum niwrnod llawn (yn dilyn profion llif ochrol negyddol ar ddiwrnod pump ac ar ddechrau’r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd yr ynysu);
  • ymrwymo i gynnal adolygiadau wythnosol nes bod yr holl gyfyngiadau wedi’u codi.

Ers cyn y Nadolig, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gwthio am bolisïau fydd yn caniatáu i bobol Cymru ddechrau “byw gyda coronafeirws” yn y gobaith o leihau’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus, i sicrhau “rhyddid i unigolion” ynghyd â “gwella iechyd meddwl a chorfforol gan sicrhau bod yr economi’n symud.”

Daw hyn wrth i Sajid Javid, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, gwtogi’r cyfnod hunanynysu yn Lloegr i bum niwrnod o ddydd Llun (Ionawr 17).

“Rhaid i weinidogion Llafur gael gwared ar eu rheolau economaidd creulon a chlinigol-ddiangen ar fusnesau fel y gallant wella o’r cyfyngiadau a osodwyd ganddynt ar Gymru yn ystod yr wythnosau diwethaf, a chynyddu iawndal i’r cwmnïau hynny sy’n cael eu taro,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae’n parhau i ddadlau bod angen i Gymru ddechrau “byw gyda’r feirws.”

“Bydd cyhoeddiad adolygu yn cael ei gynnal yfory. Dylai gweinidogion Llafur: Gollwng y gwaharddiad ar gefnogwyr, Tynnu rheol chwech mewn lletygarwch, Cyfyngiadau diwedd ar chwaraeon awyr agored, cwtogi’r cyfnod hunan-ynysu,” meddai ar Twitter.

“Mae’n bryd symud ymlaen wrth i ni ddysgu byw gyda’r feirws.”

‘Nonsens ac yn rhyfedd’

Yr wythnos hon, fe gyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y bydd hawl gan dorfeydd ddychwelyd i stadiymau o ddydd Llun (Ionawr 17).

Mae hyn yn golygu y bydd gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn cael eu cynnal ym Murrayfield.

Ond mae torfeydd mewn digwyddiadau chwaraeon yng Nghymru wedi eu cyfyngu i 50 o bobol.

“Rhaid dileu’r rheolau ar wylio a chymryd rhan mewn chwaraeon – maen nhw’n nonsens llwyr ac yn rhyfedd o ystyried yr effeithiau negyddol ar iechyd corfforol a meddyliol, heb sôn am eu canlyniadau gwrthnysig, sy’n amlwg wrth wthio pobol dan do i wylio gemau yn lle hynny,” meddai.

“Rhaid i’r Prif Weinidog hefyd ystyried lleihau’r cyfnod hunanynysu o saith i bum niwrnod, yn enwedig gan fod y data gwyddonol yn dangos nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn heintus ar ôl pum niwrnod.

“Bydd hyn yn lleddfu’r pwysau ar y gweithlu yn ein gwasanaethau cyhoeddus, yn rhoi hwb i’r economi, ac yn ein symud tuag at fyw gyda’r feirws.

“Profwyd bod ymateb Llafur i Omicron yn gamgymeriad ac maent wedi penderfynu cadw’r cyfyngiadau llymaf posibl yn y Deyrnas Unedig i arbed wyneb, waeth beth fo’r canlyniadau ar gyfer cyllid busnesau a lles meddyliol pobol ledled y wlad.”

“Mae gweinidogion wedi gwneud Cymru’n alltud, sydd wedi peryglu bywoliaeth. Mae’n rhaid iddyn nhw nawr newid cwrs ac o leiaf cyhoeddi map ffordd allan o’r cyfyngiadau.”

Bydd cynhadledd Prif Weinidog Cymru yn cael ei gynnal am 12:15 heddiw (dydd Gwener, Ionawr 14).