Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn galw am fwy o ffocws ar helpu pobol sy’n byw â dementia.

Dywed Peredur Owen Griffiths, sy’n cynrychioli Dwyrain De Cymru, y dylai Llywodraeth Cymru roi mwy o ystyriaeth i anghydraddoldebau iechyd wrth ddyfeisio cynlluniau gofal dementia, yn ogystal â strategaethau lleihau’r risg o ddementia.

Roedd yn siarad yn ystod dadl Plaid Cymru am anghydraddoldebau iechyd a oedd yn galw am strategaeth a chynllun gweithredu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru oedd yn bodoli cyn y coronafeirws, ond sydd ond wedi gwaethygu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Hoffwn sôn am ddementia,” meddai.

“Fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfer pobol hŷn, mae hwn yn fater sy’n agos at fy nghalon.

“Mae hawliau pobol â dementia hefyd wedi bod yn y newyddion yn y dyddiau diwethaf, diolch i’m cyd-aelod Plaid Cymru, Liz Saville Roberts.

“Dylai fod mwy o ymwybyddiaeth y gall nifer o ffactorau ddylanwadu’n sylweddol ar risg unigolyn o ddatblygu dementia.

“Mae anghydraddoldebau iechyd wedi dod yn elfen hanfodol wrth i ni ddysgu mwy am y potensial i leihau’r posibilrwydd o ddatblygu dementia.

“Dylai ystyried anghydraddoldebau iechyd fwydo i mewn i gynlluniau gofal dementia, yn ogystal â lleihau risg dementia.

“Nododd rhwydwaith tlodi bwyd Cymru yn 2020 fod peidio â chael digon o arian i gyrraedd siopau bwyd fforddiadwy neu gael deiet sy’n gytbwys o ran maeth bellach yn realiti cyffredin i lawer o bobol yng Nghymru.

“Dyma pam rwy’n falch bod Plaid Cymru wedi sicrhau prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd fel rhan o’r cytundeb cydweithredu.

“Bydd cael y sicrwydd o bryd maethlon gweddus a wneir gyda chynnyrch lleol ar gyfer pob plentyn ifanc yng Nghymru yn mynd peth o’r ffordd i leihau’r anghydraddoldebau iechyd sy’n gysylltiedig â bwyd ac arferion dietegol.”

Darllen rhagor

AS Plaid Cymru’n yn emosiynol ar lawr y siambr gan alw am roi’r gorau i ‘ynysu a gwahanu’ pobl â dementia

Jacob Morris

Yn ddagreuol ar lawr y siambr yn ystod Cwestiynau’r Prif Weiniog fe soniodd Liz Saville-Roberts am ei phrofiad personol gyda diganosis dementia ei mam

“Rhaid i ofal person-ganolog beidio bod yn slogan gwag”

Mae Liz Saville Roberts yn galw am newid y gyfraith i wneud ymweliadau â chartrefi gofal yn hawl ddynol