Mae rhagor o honiadau ynghylch partïon yn Downing Street, gan gynnwys un a gafodd ei gynnal y noson cyn angladd Dug Caeredin.

Cafodd y digwyddiadau eu cynnal fis Ebrill y llynedd, a hynny yn ystod cyfnod o alaru cenedlaethol, ond does dim lle i gredu bod y prif weinidog Boris Johnson yno.

Yn ôl Syr Ed Davey, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, roedd y ddelwedd o’i wraig, Brenhines Loegr, yn eistedd ar ei phen ei hun yn yr angladd, yn un o’r delweddau amlycaf yn ystod y cyfyngiadau.

Mae e’n galw ar Boris Johnson i gamu o’r neilltu, ac mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol Andrew Bridgen hefyd wedi cyflwyno llythyr o ddiffyg hyder ynddo.

Mae pump o aelodau seneddol bellach wedi datgan eu bod nhw wedi anfon llythyr at Syr Graham Brady, cadeirydd Pwyllgor 1922, yn galw am bleidlais ar ddyfodol y prif weinidog.

Yn ôl y papur newydd The Telegraph, mae cynifer â 30 o lythyron bellach wedi’u cyflwyno, ac mae angen 54 er mwyn cynnal pleidlais.

Mae Ceidwadwyr Sutton Coldfield yng nghanolbarth Lloegr hefyd wedi pasio cynnig yn galw arno i gamu o’r neilltu, yn ôl adroddiadau.

Ond fe allai gael hwb os yw’r adroddiadau ynghylch ymchwiliad Sue Gray yn wir, gan nad oes lle i gredu y bydd ei hymchwiliad yn dod i’r casgliad bod unrhyw drosedd wedi’i gyflawni.

Serch hynny, gallai Boris Johnson gael cerydd ganddi, yn ôl The Times, sy’n dweud nad oes ganddi’r hawl i benderfynu a oedd e wedi torri’r cod gweinidogol.

Honiadau

Mae disgwyl i Sue Gray feirniadu’r diwylliant yn Downing Street ar ddiwedd ei hymchwiliad.

Mae hi’n ymchwilio i gyfres o bartïon yn Downing Street a Whitehall a gafodd eu cynnal pan oedd y Deyrnas Unedig dan glo o ganlyniad i Covid-19.

Yr honiadau diweddaraf yw fod dau barti wedi’u cynnal yn ystod wythnos angladd Dug Caeredin, ac un ohonyn nhw’r noson cyn y digwyddiad.

Yn ôl y Telegraph, roedd ymgynghorwyr a gweision sifil yn y digwyddiadau ar ôl gwaith ar Ebrill 16, a hynny i nodi ymadawiad James Slack, cyn-gyfarwyddwr cyfathrebu’r prif weinidog ac un o’i ffotograffwyr.

Ond mae lle i gredu bod Boris Johnson yn Chequers ar y pryd, tra bod ei weithwyr yn yfed alcohol ac yn dawnsio i gerddoriaeth.

Mae lle i gredu bod y ddau ddigwyddiad wedi dechrau ar wahân ond wedi mynd yn un parti mawr.

Ar y pryd, doedd dim modd i’r cyhoedd ddod ynghyd dan do ac eithrio gyda phobol ar yr un aelwyd neu aelwyd estynedig. Roedd modd cyfarfod yn yr awyr agored, gan gynnwys gerddi, mewn grwpiau o chwech neu ddwy aelwyd.

Yn ôl llefarydd ar ran Downing Street, rhoddodd James Slack araith ar ei ddiwrnod olaf yn y gwaith, ac roedd rhai staff yno ac eraill ar sgrîn, ond dydy’r llefarydd ddim wedi gwneud sylw ynghylch yr honiadau am y partïon.

Daw’r honiadau ar ôl i Boris Johnson ymddiheuro am barti arall fis Mai 2020, pan gafodd staff wahoddiad i ddod ag alcohol i ardd Downing Street, ond roedd yn mynnu ei fod e’n credu bod y digwyddiad yn un gwaith a’i fod “yn dechnegol” o fewn y rheolau.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn galw ar y Ceidwadwyr i beidio â dod i unrhyw gasgliad tan ar ôl ymchwiliad Sue Gray.

Mae Ceidwadwyr yr Alban, gan gynnwys yr arweinydd Douglas Ross, yn galw ar Boris Johnson i ymddiswyddo.

Mae Heddlu Llundain yn dweud eu bod nhw mewn cysylltiad â’r Swyddfa Gabinet ynghylch yr honiadau.

Ymddiheuriad Boris Johnson wedi llwyddo i “dynnu ychydig o wynt allan o hwyliau’r dicter,” medd Guto Harri

Jacob Morris

“Mae e ’di corddi a chynddeiriogi nifer fawr o bobol ar lawr gwlad ac wedi anesmwytho Aelodau Seneddol Plaid ei hun yn ddirfawr”
Boris Johnson

Ymddiheuriad Boris Johnson yn “sarhaus”, meddai meddyg fu’n gweithio ym Mangor

Dr Saleyha Ahsan wedi colli ei thad yn ystod y cyfnod clo, ac wedi bod yn chwysu wrth weithio mewn cyfarpar diogelu personol (PPE) yn yr ysbyty

Boris Johnson yn parhau dan bwysau

“Fe yw’r Prif Weinidog, ei lywodraeth e sy’n rhoi’r rheolau hyn ar waith, ac mae’n rhaid ei ddal i gyfrif am ei weithredoedd”
Boris Johnson

Boris Johnson yn “ymddiheuro o’r galon” am bartïon yn Downing Street

Jacob Morris

Ond Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn dweud ei fod yn credu ei fod mewn digwyddiad gwaith