Mae ymddiheuriad Boris Johnson wedi llwyddo i dynnu “ychydig o wynt allan o hwyliau’r dicter” sydd yn erbyn Prif Weinidog Prydain, yn ôl ei gyn-gyfarwyddwr cyfathrebu, Guto Harri.

Ond mae’n mynnu bod y sefyllfa’n parhau’n “anhygoel o toxic” o fewn y blaid Geidwadol ac ar lawr gwlad.

Daw hyn wrth i Boris Johnson wynebu galwadau gan Aelodau Seneddol Ceidwadol i ymddiswyddo. 

“Bydd hyn ddim drosodd mewn wythnos, pythefnos na’r ochr yma i’r haf,” meddai Guto Harri wrth Golwg 360.

“Mae’n sefyllfa ddifrifol ble mae e ’di corddi a chynddeiriogi nifer fawr o bobol ar lawr gwlad ac wedi anesmwytho Aelodau Seneddol Plaid ei hun yn ddirfawr.

“Ond trwy ymddiheuro’n daer, mewn ffordd dydy gwleidyddion ddim yn gyfforddus gwneud, mae hynny wedi prynu peth amser iddo fe ei hun.

“Mae e wedi llwyddo tynnu bach o wynt o hwyliau’r dicter ar lawr gwald yn ei erbyn ac mae e wedi creu bwlch bach ble allai siarad yn breifat gydag Aelodau ei Blaid gan adael iddyn nhw feddwl yn galed; ydyn ni wir am gael gwared ar rywun sydd â’i record etholiadol e, dros rywbeth fel hyn?”

Mae’n rhaid i 54 o ASau Ceidwadol anfon llythyrau at Gadeirydd Pwyllgor 1922, Graham Brady, er mwyn sbarduno etholiad ar gyfer arweinyddiaeth y blaid.

Mewn cyfweliad i gylchgrawn Golwg yr wythnos hon mae AS Plaid Cymru dros Geredigion, Ben Lake, yn tybio efallai fod “y dynion yn y siwtiau llwydion … yn dechrau troi eu cyllyll”.

Dywedodd: “Dw i’n teimlo bod y dynion yn y siwtiau llwydion enwog hynny a gafodd wared ar Magi Thatcher, a wnaeth fywyd John Major yn hunllef, ac a roiodd gic i Theresa May, yn dechrau troi eu cyllyll tuag ato fe.”

Ond ychwanegodd Ben Lake: “Ond eto, mae yna rywbeth am Boris Johnson. Mae e’n llwyddo i fanteisio ar ei lwc ac mae yna rinwedd arbennig ganddo, ac mae gen i wir deimlad mai Boris Johnson fydd yr arweinydd yn yr etholiad nesaf, ond yn sicr fe fydd yna sgandalau newydd yn dod i’r amlwg.”

“Didrugaredd”

Mae Guto Harri yn rhybuddio y gall Aelodau Seneddol ceidwadol fod yn “ddidrugaredd” gyda’u harweinwyr.

“Rhaid cofio bod trac record gan y Ceidwadwyr o fod yn gwbl ddidrugaredd gyda’i harweinwyr sy’n gadael nhw lawr – maen nhw’n frawychus,” meddai.

“Y Blaid Geidwadol yw un o beiriannu etholiadol mwyaf llwyddiannus yn hanes democratiaeth, ochr yn ochr â’r Blaid Lafur yng Nghymru, nid o ran llywodraethu ond o ran ennill etholiadau.

“Ond rwy’n grediniol, mae dweud y byddwn nhw’n cefnu ar Boris Johnson nawr ychydig fel dweud na fydd Lewis Hamilton yn ennill y Grand Prix arall achos ei fod e ’di colli’r un ddiwethaf.”

Y Ceidwadwyr Cymreig

Yn sgil beirniadaeth o Boris Johnson gan Aelodau Ceidwadol Senedd yr Alban, mae arweinydd y Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd, Andrew RT Davies, wedi dweud ei fod yn “hanfodol bod y Prif Weinidog yn parhau â’i waith” ond y dylai’r ymchwiliad i ffeithiau’r blaid neu’r pleidiau yn Rhif 10 Downing Street gael ei “hwyluso”.

Mae p’un a fydd gwleidyddion San Steffan yn sylwi ar hynny yn fater arall – ar ôl galw arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, Douglas Ross yn “ddisylwedd” ar Newsnight neithiwr, methodd arweinydd Ty’r Cyffredin, Jacob Rees-Mogg AS, ag enwi Andrew RT Davies yn y Senedd heddiw.

Ond yn ôl Guto Harri mae ymddiheuriad Boris Johnson yn hollbwysig i sicrhau fod aelodau’r Ceidwadwyr yng Nghymru yn gallu amddiffyn y Prif Weinidog.

“Mae’n anodd meddwl am unrhyw arweinydd Ceidwadol arall sydd wedi llwyddo swyno pobl Pen-Y-Bont, Wrecsam, Ynys Môn a rhai o ardaloedd Gogledd Lloegr mewn etholiad cyffedinol,” meddai.

“Dyma ardaloedd traddodiadol sy’n gweld y syniad o bleidleisio dros y Ceidwadwyr yn afiach.

“Mae’n gofyn lot i rywun i fynd allan i wynebu ei etholwyr neu eu gwasg lleol nhw, neu hyd yn oed eu cydweithwyr, heb sôn am eu gwrthwynebwyr, gan geisio cyfiawnhau’r hyn a ddigwyddodd yn Rhif 10.

“Dyna pam oedd yr ymddiheuriad yna ddoe yn gwbl angenrheidiol, doedd e ddim yn ddigon i dawelu popeth, ond hebddo fe rwy’n credu bydde fe ar ben iddo [Boris Johnson]

“Ond trwy ymddiheuro mae’n caniatáu iddo ddangos ei fod yn difaru’r peth gan roi’r cyfle iddyn nhw [y Ceidwadwyr] barcio’r peth.

“Rhaid cofio – mae ’na bethau llawer mwy mae pobl wedi gallu symud ymlaen a chefnu arnynt.

“Ond dydy hynny ddim i ddweud fod y sefyllfa ddim yn anhygoel o toxic ac mae’n atseinio ar lawr gwald gan fod pawb wedi bod yn yr un sefyllfa ym mis Mai 2020.”

Maddau neu anghofio?

Er bod yr wythnos hon yn codi cwestiynau sylfaenol am sefyllfa Boris Johnson fel Prif Weinidog mae Guto Harri yn dweud y bydd etholwyr yn y pendraw yn “anghofio” neu’n “maddau” i’r Prif Weinidog am dorri rheolau.

“Bydd ’na rai pobl byth yn maddau iddo fe,” meddai.

“Ond gydag amser mae pobl yn maddau neu’n anghofio pob math o bethau ac yn y gorffennol mae pobl wedi gwneud hynny gyda phethau llawer mwy na hyn.

“Mae e di cymryd blynyddoedd maith i rai ohonom ni i barcio rhyfel y Gwlff gyda Tony Blair.

“Methiant [David] Cameron wrth alw refferendwm Brexit gan arwain ymgyrch anobeithiol i gadw Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd.

“Felly, ma pobl, gydag amser, yn symud ymlaen o bethau ac yn gweld heibio’r awr o wledda yng ngardd Rhif 10.

“Pan chi’n meddwl amdano fe o ddifri, ymhen 2 flynedd pan fydd ASau yn mynd nôl at y bobol [mewn etholiad cyffredinol] dydw i ddim yn credu bydd lot o bobl yn pleidleisio ar sail y ffaith fuodd ’na barti yn Rhif 10 blynyddoedd yn ôl.

“Ac yn y bôn does dim ots pa mor flin yw pobl ar lawr gwlad fedran nhw ddim disodli Boris yn y dyfodol agos – ond mi fedr Aelodau Ceidwadol.”

Darllen rhagor

Boris Johnson

Ymddiheuriad Boris Johnson yn “sarhaus”, meddai meddyg fu’n gweithio ym Mangor

Dr Saleyha Ahsan wedi colli ei thad yn ystod y cyfnod clo, ac wedi bod yn chwysu wrth weithio mewn cyfarpar diogelu personol (PPE) yn yr ysbyty

Boris Johnson yn parhau dan bwysau

“Fe yw’r Prif Weinidog, ei lywodraeth e sy’n rhoi’r rheolau hyn ar waith, ac mae’n rhaid ei ddal i gyfrif am ei weithredoedd”
Boris Johnson

Boris Johnson yn “ymddiheuro o’r galon” am bartïon yn Downing Street

Jacob Morris

Ond Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn dweud ei fod yn credu ei fod mewn digwyddiad gwaith

“Dw i’n ymddiried ynddo fe,” meddai Simon Hart am Boris Johnson

Ond mae Ysgrifennydd Cymru’n dweud nad yw Downing Street “yn lle hapus i fod”