Mae’r AS Torïaidd Daniel Kawczynski yn wynebu’r posibilrwydd o waharddiad undydd gan y Senedd am “danseilio” ymddiheuriad a roddodd yn Nhŷ’r Cyffredin am fwlio staff.

Mae Pwyllgor Safonau Tŷ’r Cyffredin wedi argymell y dylai’r AS hefyd ymddiheuro ymhellach yn Nhŷ’r Cyffredin ar ôl gwneud cyfweliadau yn y cyfryngau oedd yn codi amheuaeth ar ddiffuantrwydd ei ymddiheuriad gwreiddiol.

Mae’r Aelod dros yr Amwythig ac Atcham yn gyn-gynorthwyydd seneddol i gyn-ysgrifennydd gwladol Cymru, David Jones, ac yn uchel ei gloch am Gymru – gan alw am ddiddymu’r Senedd ym Mae Caerdydd gan na allai ei etholwyr fynd i’r traeth yng Nghymru.

“Er ei fod yn dweud ei fod yn ddiffuant erbyn iddo ymddiheuro i’r Tŷ, roedd y bore hwnnw i bob pwrpas wedi tanseilio diffuantrwydd yr ymddiheuriad hwnnw drwy ddarlledu’r ffaith ei fod yn ei wneud oherwydd ei fod yn ofynnol iddo wneud hynny ac roedd yn anghytuno â’r ffordd yr oedd yr achos wedi’i gynnal,” meddai adroddiad y Pwyllgor Safonau.

Yn ei adroddiad, dywedodd y pwyllgor fod ymddygiad Mr Kawczynski yn ddifrifol gan ei fod yn peryglu hygrededd y cynllun cwynion ar gyfer staff Tŷ’r Cyffredin sydd ond wedi’i sefydlu’n ddiweddar.

Fel arfer, byddai’n haeddu cosb fwy difrifol ond cydnabu’r pwyllgor yr amgylchiadau lliniarol a nodwyd gan yr AS, gan gynnwys ei ymrwymiad i weithio ar ei “agwedd a’i ymddygiad”.

Dywedodd: “Rydym wedi ein darbwyllo bod Mr Kawczynski wedi bod yn gwneud ymdrech ddiffuant i ddod i well dealltwriaeth o wreiddiau ei ymddygiad gwael ac mae wedi ymrwymo’n wirioneddol i’r ’daith’ bersonol hon ac i gynorthwyo eraill yn yr un sefyllfa ag ef ei hun.

“Mae Mr Kawczynski wedi dangos dirmyg. Mae’n gwybod ei fod yn ffôl ac yn anghywir i siarad â’r newyddiadurwyr fel y gwnaeth.

“Ond nid yw ei ddirmyg yn amharu ar y ffaith bod ei weithredoedd wedi achosi niwed sylweddol i enw da a chywirdeb Tŷ’r Cyffredin yn ei gyfanrwydd.”

Daniel Kawczynski

AS oedd am ddiddymu’r Senedd yn gorfod ymddiheuro am ymddwyn yn fygythiol

Roedd y cwynion yn ei erbyn yn ymwneud â digwyddiad llynedd pan gafodd drafferth ymuno â chyfarfod rithiol yn sgil problemau technolegol

Ceidwadwr yn galw am ddiddymu Senedd Cymru

Cwyno bod Saeson “methu teithio i’w arfordir agosaf”