Mae achos wedi dechrau yn y Goruchaf Lys i herio’r penderfyniad i beidio ag erlyn llanc oedd dan amheuaeth am achosi marwolaeth bachgen ifanc yng Nghwm Cynon.

Cafodd Christopher Kapessa, a oedd yn 13 oed, ei ladd ar ôl cael ei wthio i mewn i’r afon Cynon ger Brynrhedyn ym mis Gorffennaf 2019.

Yn ddiweddarach, cafodd bachgen 14 oed ei amau o achosi’r farwolaeth, ond fe wnaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) benderfynu peidio â’i gyhuddo gan ddweud nad oedd hynny er budd y cyhoedd.

Yn dilyn hynny, fe wnaeth mam Christopher, Alina Joseph, benderfynu gwneud cais i herio’r penderfyniad hwnnw yn y Goruchaf Lys – cais a gafodd ei dderbyn.

Fe ddechreuodd yr achos yn erbyn Cyfarwyddwr Erlyniaddau Cyhoeddus y CPS, Max Hill, heddiw (dydd Iau, 13 Ionawr) gyda gwrandawiad yn Llundain.

Penderfyniad ‘afresymol’

Dywedodd cyfreithwyr Alina Joseph yn ystod y gwrandawiad bod y penderfyniad i beidio ag erlyn y bachgen 14 oed yn “afresymol.”

“Mae penderfyniad y diffynnydd yn methu â gwerthfawrogi bywyd dynol yn iawn, yn benodol, bywyd [Christopher Kapessa],” meddai Michael Mansfield QC.

“Mae’r diffynnydd wedi methu â rhoi sylw priodol i ddifrifoldeb y niwed a’r drosedd.

“Mae pwysau gormodol ac amhriodol wedi’i roi ar effaith erlyniad ar ddyfodol y troseddwr.”

Ychwanegodd Mansfield bod y neges y mae’r penderfyniad yn ei chyfleu yn un sydd ddim yn ennyn hyder yn y system gyfiawnder.

Yn ôl y barnwyr, does dim modd i’r wasg ddatgelu enw’r sawl sy’n cael ei amau o achosi’r farwolaeth.

Marwolaeth Christopher Kapessa

Cafodd y barnwyr, yr Arglwydd Ustus Popplewell a Mr Ustus Dove, wybod bod 16 o bobol yn bresennol pan fu farw Christopher Kapessa.

Dywedodd Mr Mansfield bod Christopher wedi mynegi pryderon am ei ddiffyg gallu nofio ac wedi bod yn “anfodlon mynd i mewn i’r dŵr wrth ei hun.”

“Fe wnaeth yr un sy’n cael ei amau ei wthio ar bwrpas i’r dŵr,” ychwanegodd.

“Fe wnaeth Christopher foddi a chafodd ei ladd o ganlyniad.”

Dywedodd bod Christopher a’i deulu yn “weddol newydd” i’r ardal, a’u bod nhw yn deulu du sy’n byw mewn ardal sydd gan fwyaf yn wyn.

Angen ’dileu’ penderfyniad

Fe ddadleuodd Mr Mansfield yn ddiweddarach bod y penderfyniad i beidio ag erlyn y llanc, sydd nawr yn 17 oed, yn “anghyfreithlon” ac “angen cael ei ddileu.”

“Mae un ffactor – sef oedran y troseddwr – wedi cael gormod o sylw yn fan hyn,” meddai.

“Mae’r un sy’n cael ei amau yn y mater hwn bellach yn 17, ond dydy hynny ddim yn atal y budd cyhoeddus o ddal unigolyn i gyfrif am achosi marwolaeth drwy ddynladdiad.

“Byddai hi ddim yn ‘anghymesur’ i gyhuddo bachgen neu berson ifanc am y dynladdiad mae wedi ei achosi.

“Mae oedran troseddwr yn ffactor y gallai’r llys troseddol ei hun ei ystyried pan yn gosod cosb.”

Teulu Christopher Kapessa yn ennill adolygiad barnwrol dros ei farwolaeth yn afon Cynon

Y gred yw fod Christopher Kapessa wedi cael ei wthio i mewn i afon Cynon gan fachgen 14 oed ym mis Gorffennaf 2019

Mam Christopher Kapessa yn beirniadu’r penderfyniad i beidio â dwyn achos yn dilyn ei farwolaeth

Bu farw’r bachgen 13 oed ar ôl cael ei wthio i afon Cynon fis Gorffennaf y llynedd