Mae wedi dod i’r amlwg fod perchennog sinema annibynnol a gafodd ddirwy o £15,000 am wrthod gofyn i gwsmeriaid am basys Covid yn absennol o wrandawiad ei hapêl ei hun.

Fe wnaeth Anna Redfern, o Cinema & Co yn Abertawe, ailagor ei lleoliad sawl gwaith ar ôl cael gorchymyn i gau gan farnwr fis Tachwedd diwethaf yn dilyn torri’r rheoliadau Covid.

Dywedwyd wrthi hefyd am dalu costau llys o £8,940 a gordal o £190, a chafodd ddedfryd o 28 diwrnod o garchar wedi’i gohirio ar ôl cyfaddef i ddirmyg llys.

Mae’r fam i ddau o blant yn herio ei dedfryd ond roedd yn absennol o’i gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau (13 Ionawr).

Dywedodd y Barnwr Thomas y dylai Anna Redfern, nad oedd yn cael ei chynrychioli yn y gwrandawiad, gael gwybod y gallai ei dedfryd a’i dirwy gynyddu pe bai’n colli ei hapêl.

“Dyw’r hyn dw i wedi’i ddweud ddim yn arwydd o beth allai canlyniad yr achos fod,” ychwanegodd.

Dywedodd yr erlynydd Lee Reynolds ei fod yn credu bod Anna Redfern yn bwriadu cyflwyno dadl hawliau dynol yn ei hapêl.

Soniwyd hefyd am yr arian a gafodd Anna Redfern drwy crowdfunder sydd wedi’i sefydlu ar ei rhan.

Mae dros £60,000 wedi’i godi er mwyn i’r sinema allu fforddio costau cyfreithiol, herio dirwyon, a thalu am golli busnes.

Gallai’r arian olygu y gall y llys osod dirwy fwy ar Anna Redfern.

Bydd gwrandawiad pellach yn cael ei gynnal ddydd Iau 20 Ionawr.