Mae Boris Johnson yn annhebygol o gael ei weld yn gyhoeddus am yr wythnos nesaf ar ôl i aelod o’i deulu agos brofi’n bositif am Covid, meddai Downing Street.

Er nad yw’n orfodol i berson hunanynysu os ydynt yn dod o fewn cyswllt agos gyda rhywun sy’n bositif, mae llefarydd ar ran y Prif Weinidog yn dweud ei fod yn gwrando ar ganllawiau i gyfyngu ar gysylltiadau allanol gymaint â phosibl.

Daw hyn ar adeg pan Mae Boris Johnson yn wynebu galwadau gan Aelodau Ceidwadol i ymddiswyddo yn dilyn ei ymddiheuriad i Dŷ’r Cyffredin am dorri cyfyngiadau Covid yn ystod y cyfnod clo cyntaf.

Roedd disgwyl i’r Prif Weinidog ymweld â chanolfan frechu yn Sir Gaerhirfryn heddiw (Ionawr 13), lle byddai, yn anochel, wedi wynebu cwestiynau gan y wasg am fynychu parti yng ngardd Downing Street ym mis Mai 2020. Cafodd hynny ei ganslo.

Beirniadaeth o fewn y blaid

Yn y cyfamser, mae Ceidwadwr blaenllaw yng Nghymru wedi cwestiynu p’un ai all Mr Johnson “fyth eto adennill ymddiriedaeth” y cyhoedd.

Daeth sylwadau Richard John, arweinydd Cyngor Sir Fynwy, yn dilyn ymddiheuriad y Prif Weinidog ar lawr siambr Tŷ’r Cyffredin ddoe (Ionawr 12).

Dywedodd Richard John: “Roedd y cyhoedd yn dilyn y rheolau er bod hynny’n golygu na allen nhw ffarwelio gydag anwyliaid oedd yn marw neu’n gorfod dioddef colli babi ar eu pennau eu hunain.”

“Gobeithiaf fod y Prif Weinidog yn pendroni heno a all llywodraeth y mae e’n ei harwain adennill ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd ym Mhrydain.”

Mae’r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd yng Nghymru, Lee Waters AoS, wedi canmol arweinydd cyngor Sir Fynwy gan ddweud bod ganddo “ei feddwl ei hun, a synnwyr o weddusrwydd.”

Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ffyddlon

Ond mae Andrew RT Davies wedi gwrthod beirniadu’r Prif Weinidog, a hynny yn dilyn galwadau gan arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, Douglas Ross, i Boris Johnson ymddiswyddo.

“Mae wedi ffurfio ei farn ei hun am bethau cyn i ymchwiliad Gray ddod at gasgliadau ac mae hawl ganddo i wneud hynny,” meddai Andrew RT Davies am Douglas Ross.

“Ond byddaf yn aros i’r ymchwiliad hwnnw gyflwyno ei dystiolaeth yn amlwg.

“Gallaf ddeall y dicter a’r rhwystredigaeth sy’n cael ei deimlo gan bobl yn dilyn y parti ar yr 20fed o Fai [2020], ond mae’n bwysig deall y cyd-destun o ran [sut] mae Downing Street yn gweithredu.”

“Ac mae’n bwysig deall bod ymchwiliad ac ymchwiliad annibynnol yn parhau ar hyn o bryd gan uwch was sifil.”

Fe nododd hefyd: “Mae pobl yn cael eu brifo, yn ddig ac yn cael eu siomi yn nigwyddiadau’r 48 awr ddiwethaf, ac mae’r Prif Weinidog wedi ymddiheuro’n briodol.

“Rhaid hwyluso’r ymchwiliad gan yr uwch was sifil, Sue Gray, yn awr i sefydlu’r ffeithiau llawn ac adrodd ar y canfyddiadau cyn gynted â phosibl.”

Ymatebodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters i neges Andrew RT Davies ar ei gefnogaeth i’r Prif Weinidog drwy ddweud ei fod yn “awchu am anrhydedd. Mae’n haeddu OBN.”

Mae OBN yn gyfeiriad at ‘Order of the Brown Nose’ sy’n golofn reolaidd yn y cylchgrawn dychanol, Private Eye.

Dywedodd Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles bod y sefyllfa yn “gwbl ragweladwy, yn anffodus”.

Fe wnaeth aelod meinciau cefn y Senedd Lafur, Hefin David, ofyn pam nad yw’r Ceidwadwyr “yn dangos mwy o ddewrder moesol”.

“Rwy’n gwybod y bydd Andrew RT Davies yn teimlo ei fod wedi ei fradychu,” meddai Hefin David, “dylai ddweud hynny’n gyhoeddus. Sefwch dros yr hyn sy’n iawn.”

Pwy?

Heddiw, fe fethodd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Jacob Rees-Mogg ag enwi pwy arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru.

Daw hyn yn dilyn cyfweliad Newsnight gyda’r Ceidwadwr blaenllaw Jacob Rees-Mogg lle bu iddo alw arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd yr Alban, Douglas Ross, yn “ddisylwedd”.

Mae gwleidyddion eraill yng Nghymru wedi manteisio ar hynny gan ddweud ei fod yn arwydd nad yw Ceidwadwyr San Steffan yn poeni am Gymru.

Fe ddywedodd Liz Saville-Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan: “Er dangos ffyddlondeb i’w feistri yn San Steffan bob cam o’r ffordd, dydy Andrew RT Davies ddim yn ar eu radar.

“Amser i Dorïaid Cymru sylweddoli na fydd eu rheolwyr yn San Steffan fyth yn gofalu am Gymru.”

Os bydd 54 o Aelodau Seneddol Ceidwadol yn anfon llythyrau at Bwyllgor 1922 – y grŵp meinciau cefn dylanwadol sy’n rhedeg gornestau arweinyddiaeth y Torïaid – bydd yn sbarduno her i arweinyddiaeth Boris Johnson.

Darllen Rhagor

Ymddiheuriad Boris Johnson wedi llwyddo i “dynnu ychydig o wynt allan o hwyliau’r dicter,” medd Guto Harri

Jacob Morris

“Mae e ’di corddi a chynddeiriogi nifer fawr o bobol ar lawr gwlad ac wedi anesmwytho Aelodau Seneddol Plaid ei hun yn ddirfawr”

Boris Johnson yn parhau dan bwysau

“Fe yw’r Prif Weinidog, ei lywodraeth e sy’n rhoi’r rheolau hyn ar waith, ac mae’n rhaid ei ddal i gyfrif am ei weithredoedd”

Pwysau’n cynyddu ar Boris Johnson i ymddiswyddo

Huw Bebb

“Dyw Boris Johnson ddim yn berson ffit i fod yn brif weinidog”