Bydd Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, yn cadeirio cyngor sy’n cynnwys arweinwyr y llywodraethau datganoledig.
Daw hyn fel rhan o broses ailstrwythuro i wella’r berthynas rhwng holl lywodraethau’r Deyrnas Unedig.
Mae adolygiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig o’r berthynas rhyngthi a Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Gogledd Iwerddon wedi arwain at sefydlu system dair haen sydd yn dod â gweinidogion o’r holl wledydd at ei gilydd.
Bydd tîm o weision sifil yn cael eu galw arnyn nhw o’r pedair llywodraeth, gan ffurfio ysgrifenyddiaeth ar gyfer y cyngor newydd.
Dywed Michael Gove, a fydd hefyd yn rhan flaenllaw o’r system newydd, fod y pedair llywodraeth wedi cytuno i’r cynlluniau, sydd â’r nod o leihau achosion o wrthdaro a datrys anghydfod.
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi croesawu’r drefn newydd, gan ddweud bod gan y pedair llywodraeth “gyfrifoldeb” i lynu at egwyddorion y cyngor.
Unwaith y flwyddyn
Yn rhan o’r system tair haen sydd wedi ei chyflwyno, bydd Boris Johnson yn cadeirio’r cyngor ar yr haen uchaf, a fydd yn cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn.
Bydd yr ail haen yn cynnwys dau bwyllgor sefydlog rhwng gweinidogion, gydag un o’r pwyllgorau’n cael ei gadeirio gan y Gweinidog ar gyfer Cysylltiadau Rhynglywodraethol, Michael Gove, a’r llall yn canolbwyntio ar gyllid.
Yn y drydedd haen fydd grwpiau rhwng gweinidogion sy’n cynnal cyfarfodydd rheolaidd ar faterion fel iechyd, trafnidiaeth ac addysg.
Dywed Llywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd hyn yn gwella cydweithredu a chyfathrebu rhwng y pedair gweinyddiaeth.
‘Cyfrifoldeb i gadw at yr egwyddorion hyn’
Rhoddodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, groeso i’r strwythur newydd.
“Mae’r pecyn terfynol o ddiwygiadau yn adeiladu ar y set ddrafft o gynigion a gafodd eu cyhoeddi ar 24 Mawrth y llynedd,” meddai.
“Mae cynnydd pellach wedi’i wneud ers hynny i gryfhau’r pecyn, gan ganolbwyntio ar y pryderon a gafodd eu mynegi gennym ni ynglŷn â’r cynigion cynharach.
“Ar y cyfan, mae gan y pecyn y potensial i gyflawni gwelliannau sylweddol, os caiff yr ysbryd a’r cynnwys sy’n cael eu nodi yn y pecyn eu trosi’n ddulliau a chamau gweithredu cyson, sy’n seiliedig ar barch, cydraddoldeb, ac awydd i ddod i gytundeb drwy drafodaeth nid gorfodaeth.
“Mae gan y pedair Llywodraeth gyfrifoldeb i gadw at yr egwyddorion hyn.”
“Tynnu at ei gilydd”
Roedd Boris Johnson yn dweud bod y Deyrnas Unedig “ar ei gorau” pan mae’r wlad yn “tynnu at ei gilydd mewn achos, ysbryd ac ymdrech gyffredin.”
Ychwanegodd Michael Gove bod “datganoli wedi grymuso cymunedau ac arwain at fuddion enfawr ar draws y Deyrnas Unedig.”
Dywedodd y byddai’r cytundeb yn adeiladu ar “y maint anhygoel o gydweithio” sy’n digwydd rhwng yr holl lywodraethau.
Angen newid i “sylwedd yr ymgysylltu”
Roedd y croeso’n llai cynnes gan ddirprwy Brif Weinidog yr Alban, John Swinney: “Ni fydd ail-frandio’r strwythurau presennol yn sicrhau’r newid sylweddol mewn agwedd ac ymddygiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig sydd ei angen i sicrhau gwelliant gwirioneddol mewn cysylltiadau rhynglywodraethol – yr hyn sydd ei angen ar frys yw newid cyfatebol yn sylwedd yr ymgysylltu.
“Mae’r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ymdrin â Brexit, a gosod Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 sy’n lleihau pwerau Senedd yr Alban, er i hynny gael ei wrthod yn benodol o dan gonfensiwn Sewel, yn dangos nad yw gwelliannau gweithdrefnol yn unig yn ddigon i ailosod y berthynas.
“Y gwir brawf fydd a yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu darparu’r ewyllys da a’r ymddiriedaeth ar gyfer gwell cysylltiadau rhynglywodraethol a bod y trefniadau arfaethedig yn arwain at ymgysylltu mwy ystyrlon â chanlyniadau cynhyrchiol.”