Mae’r Frenhines wedi cytuno i dynnu rolau milwrol ac anrhydeddau brenhinol oddi ar y Tywysog Andrew, medd Palas Buckingham.

Mae’r cam yn ergyd enfawr i Andrew sydd ag achos llys sifil am ymosodiad rhywiol ar y gorwel ar ôl i farnwr ddyfarnu ddydd Mercher y gallai’r achos fynd yn ei flaen.

Dywedodd y Palas mewn datganiad: “Gyda chymeradwyaeth a chytundeb y Frenhines, mae cysylltiadau milwrol Dug Caerefrog, ac anrhydeddau brenhinol, wedi’u dychwelyd i’r Frenhines.

“Bydd Dug Caerefrog yn parhau i beidio â chyflawni unrhyw ddyletswyddau cyhoeddus ac mae’n amddiffyn yr achos hwn fel dinesydd preifat.”

Dicter cyn-filwyr

Daw hyn ar ôl i fwy na 150 o gyn-filwyr fynegi eu dicter, gan ysgrifennu at y Frenhines i fynnu bod Andrew yn colli ei swyddi milwrol anrhydeddus.

Gan gyhuddo’r Dug o ddod â’r lluoedd y mae’n gysylltiedig â nhw i anfri, dywedodd y 152 o gyn-aelodau’r Llynges Frenhinol, yr Awyrlu Brenhinol a’r Fyddin “pe bai hyn yn unrhyw uwch-swyddog milwrol arall, mae’n anamgyffredadwy y byddai’n dal i fod yn ei swydd”.

Y Frenhines yw pennaeth y lluoedd arfog, a hi sy’n rhoi penodi pobl i rolau milwrol anrhydeddus.

Dywedodd y Palas yn flaenorol fod rolau milwrol y Dug wedi’u hymatal ar ôl iddo ymddiswyddo o ddyletswyddau cyhoeddus yn 2019 – ond tan hyn, roedd wedi cadw’r rolau’n swyddogol.

Mae Virginia Giuffre yn dwyn achos sifil yn erbyn y Dug yn yr Unol Daleithiau am ymosod arni’n rhywiol pan oedd yn ei harddegau.

Mae’n honni iddi gael ei masnachu gan Epstein i gael rhyw gydag Andrew pan oedd hi’n 17 oed.

Mae’r Dug wedi gwadu’r honiadau.