Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cyhoeddi panel o Gomisiynwyr Cynorthwyol a fydd yn arwain gwrandawiadau cyhoeddus ar newidiadau i’r map etholiadol.
Daw’r newidiadau i’r ffiniau yn dilyn penderfyniad Tŷ’r Cyffredin i dorri nifer yr ASau yng Nghymru o 40 i 32.
Bydd y Comisiynwyr Cynorthwyol yn ffurfio panel i arwain y gwrandawiadau cyhoeddus ac ysgrifennu adroddiad ar y sylwadau a dderbyniwyd gan y Comisiwn.
Bydd hynny’n cael ei ystyried gan y Comisiwn wrth baratoi eu Cynigion Diwygiedig sydd i’w cyhoeddi yn Hydref 2022.
Y pedwar Comisiynydd Cynorthwyol yw:
- Dr Arun Midha, aelod lleyg ar y Pwyllgor Dethol ar Safonau Tŷ’r Cyffredin,
- Steven Phillips cyn-Brif Weithredwr a Swyddog Cofrestru/Canlyniadau Etholiadol Cyngor Castell-nedd Port Talbot,
- Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr y Mudiad Meithrin,
- Andrew Clemes, Barnwr rhan-amser o’r Tribiwnlys Haen Gyntaf sy’n eistedd yn y Siambr Hawliau Cymdeithasol.
Wrth sôn am benodi’r Comisiynwyr Cynorthwyol, Ysgrifennydd Comisiwn Ffiniau Cymru, dywedodd Shereen Williams MBE: “Mae’r Comisiwn yn falch iawn o gyhoeddi’r pedwar person sy’n ffurfio ei banel o Gomisiynwyr Cynorthwyol.
“Bydd yr arbenigedd a’r brwdfrydedd a ddaw i’n tîm o fudd sylweddol i’r Comisiwn wrth i ni fwrw ymlaen â’n hadolygiad, gan ddechrau gyda’r Gwrandawiadau Cyhoeddus sydd i ddechrau ym mis Chwefror.”
Hollti barn
Mae’r broses o ad-drefnu etholaethau Cymru wedi hollti barn.
Yn ddiweddar mae llawer wedi codi eu llais yn erbyn y gostyngiad i nifer yr etholaethau, ond mae’r Comisiwn yn pwysleisio mai penderfyniad gan y Senedd oedd hynny.
“Beth sydd ar waith yw cynllun fformiwlëig, mathemategol ac mae hynny’n cael ei ddefnyddio’n eithaf didrugaredd yn erbyn Cymru,” meddai Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, wrth gylchgrawn Golwg.
“Dyma’r camau diweddaraf ar lwybr y Torïaid i gymryd rheolaeth yn ôl [o Senedd Cymru] i San Steffan.”
Er hynny, mae nifer o bobol o blaid y newidiadau, gyda rhai ymatebwyr mewn arolwg fis Tachwedd yn nodi eu bod nhw’n falch o gael symud i etholaeth y maen nhw’n gallu cysylltu mwy â hi.
Cynhelir y Gwrandawiad Cyhoeddus cyntaf yng Nghaerdydd ar 17 Chwefror.
Yn dilyn hynny fe fydd yna wrandawiadau’n symud ledled Cymru o Wrecsam (23 Chwefror), Abertawe (1 Mawrth), Bangor (9 Mawrth), ac Aberystwyth (30 Mawrth).
Gohiriwyd y Gwrandawiadau Cyhoeddus cyn y Nadolig oherwydd pryderon diogelwch yn sgil yr amrywiolyn Omicron.