Mae adroddiad ar y tâl anghyfreithlon o £95,000 i gyn-brif weithredwr cyngor Sir Penfro yn dweud bod yna “fethiant llywodraethu difrifol” wedi bod.
Gadawodd Ian Westley Gyngor Sir Penfro ym mis Tachwedd 2020 gyda thaliad wedi’i gytuno gan arweinydd y cyngor David Simpson.
Cyhoeddodd Archwilio Cymru ei adroddiad ar yr amgylchiadau sy’n gysylltiedig â’r tâl heddiw (Ionawr 13) gan nodi bod y “taliad terfynu” yn groes i’r gyfraith.
Mae’r adroddiad yn nodi mai’r “casgliad cyffredinol yw bod y broses a ddilynir gan y Cyngor sy’n arwain at y taliad yn enghraifft o fethiant llywodraethu difrifol.”
“Penderfyniadau gwael a di-sail”
Amlygwyd methiant i fynd i’r afael ag anawsterau perthynas rhwng aelodau a swyddogion – gyda honiadau o fwlio gan aelodau’r cabinet a diffyg eglurder ar rolau a chyfrifoldebau perthnasol.
Canfu archwilwyr enghreifftiau o swyddogion yn methu â chyflawni eu dyletswyddau proffesiynol yn briodol, gan ddiystyru cyngor cyfreithiol allanol – gyda’r pennaeth adnoddau dynol yn dweud nad oedd wedi gweithredu ar gyngor cyfreithiol allanol i egluro a dogfennu ar ba sail yr oedd Mr Westely yn gadael a pham yr oedd i dderbyn taliad – a methu â dilyn polisïau a gweithdrefnau mewnol.
Roedd yna hefyd “benderfyniadau gwael a di-sail, methiant i ddogfennu ac adrodd ar y rhesymau dros benderfyniadau, chafodd aelodau’r Cyngor mo’r cyfle i adolygu a chraffu ar y cynnig, ac roedd methiant i gydymffurfio â gofynion deddfwriaethol,” ychwanegodd.
Roedd cynnal yr archwiliad wedi bod yn “gymhleth” ac fe’i gwnaed yn waeth gan fethiant y cyngor i “ddogfennu ar ba sail y gwnaed penderfyniadau” ynghyd â’r gwahanol atgofion o ddigwyddiadau gan y rhai a gyfwelwyd.
“Dywedodd rhai, gan gynnwys y cyn-Brif Weithredwr, wrth fy archwilwyr fod yr anawsterau wedi’u hachosi gan ymddygiad aelod tuag ato dros gyfnod, a’u bod yn gyfystyr â bwlio a bygythiadau.”
“Mwy i’w wneud”
Dywedodd llefarydd: “Mae Cyngor Sir Penfro yn croesawu’r adroddiad manwl gan Archwilio Cymru i’r cytundeb setlo gyda’i gyn Brif Weithredwr, ac rydym yn cydnabod difrifoldeb ei ganfyddiadau.
“Gwnaed cynnydd sylweddol eisoes mewn llawer o’r meysydd a nodwyd yn adolygiad Archwilio Cymru o ddigwyddiadau a gynhaliwyd dros flwyddyn yn ôl.
“Mae’r Cyngor yn cydnabod bod mwy i’w wneud o hyd.
“Sefydlwyd rhaglen wella gynhwysfawr y llynedd i fynd i’r afael ag arsylwadau sy’n deillio o adolygiadau allanol a mewnol a gomisiynwyd gan y Cyngor.
“Bydd adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, adroddiadau cysylltiedig eraill, a chynllun gweithredu i fynd i’r afael ag argymhellion yn cael ei ystyried gan gyfarfod o’r Cyngor ar 1 Chwefror 2022.”