Dylai gweithwyr y DVLA gael yr hawl i weithio o adref yn dilyn ymchwydd mewn achosion Covid-19 ar ei safle, medd Aelod Seneddol.
Mae nifer yr achosion ymysg gweithwyr yr asiantaeth wedi pasio 1,700 yn ystod y don ddiweddaraf gyda’r amrywiolyn Omicron, clywodd gweinidogion.
Mae’r berthynas rhwng y DVLA a’u staff yn y brif swyddfa yn Nhreforys wedi bod o dan bwysau drwy gydol y pandemig.
Roedden nhw’n galw ar yr asiantaeth i ostwng nifer y staff sydd angen mynd i mewn i’r swyddfa i weithio ar ôl i bryderon gael eu codi wedi sawl achos o Covid-19.
Ond oherwydd mai dim ond 40% oedd wedi bwrw eu pleidlais, sy’n is na’r trothwy gorfodol o 50%, fe gafodd y cynlluniau i streicio eu rhoi i’r naill ochr ym mis Tachwedd.
Bellach, mae Geraint Davies, yr Aelod Seneddol ar gyfer Gorllewin Abertawe, yn galw ar weinidogion i ymyrryd yn y sefyllfa er mwyn sicrhau amodau diogel ar gyfer gweithwyr.
Gweithio o bell
Fe wnaeth Geraint Davies AS adleisio ple’r gweithwyr yn Nhŷ’r Cyffredin.
“Flwyddyn yn ôl, bu farw Phil Grant o’r DVLA yn anffodus o Covid-19,” meddai.
“Roedd yn ddyn yn ei 60au â chyflwr ar y galon, a oedd yn cael gweithio gartref yn ystod y cyfnod clo cyntaf, ond [yn ddiweddarach], cafodd ei orfodi i fynd i’r gweithle.
“Flwyddyn yn ddiweddarach, ychydig cyn y Nadolig diwethaf, cytunodd yr undebau a’r rheolwyr ar ôl 700 o achosion o Covid-19 yn y DVLA y dylai fod trefniadau newydd i bobol weithio gartref a system rota i ganiatáu diogelwch.
“Fe ymyrrodd y Llywodraeth ac atal y cynlluniau hynny ar y sail bod Omicron ddim mor beryglus.
“Ers hynny, mae gennym ni bellach 1,700 o achosion Covid-19 yn y DVLA.”
Gofynnodd Davies i’r gweinidog Swyddfa’r Cabinet, Steve Barclay, ymyrryd eto a chaniatáu i’r cynllun gwreiddiol “gael ei weithredu am o leiaf ychydig fisoedd”.
“Bydd yn ymwybodol o dan Gynllun B fod cyflogwyr yn cael eu hannog i weithio gartref lle bo modd,” meddai Steve Barclay.
“Rwy’n hapus iawn i ddwyn yr achos gerbron yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth (Grant Shapps) sy’n goruchwylio’r corff dan sylw.
“Bydd hefyd yn gwybod bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydbwyso’r angen i fynd i’r afael â’r materion cyflogaeth hynny â phwysigrwydd cynyddu profion ar gyfer HGVs, a cheir, ac ati.”