Mai arolwg arall wedi dangos mai Cymru sydd wedi gweld y twf blynyddol uchaf mewn prisiau tai ym Mhrydain.
Yn ôl yr arolwg gan e.surv, roedd prisiau tai wedi tygu 9.4% ar ddiwedd 2021, sy’n uwch phob un o’r naw rhanbarth dros y ffin.
Mae Cymru wedi bod ar dop y rhestr ar gyfer twf blynyddol am chwe mis yn olynol bellach, er bod y ffigwr wedi gostwng o’r 11.8% a gofnodwyd yn y mis blaenorol.
Yn ol yr arolwg hwn, golyga hyn bod pris tŷ cyfartalog yng Nghymru wedi codi i £227,378.
Ffactorau
Dywed e.surv mai’r prif sbardunau yn y farchnad dai dros y ddwy flynedd diwethaf yw’r cynnydd mewn galw yn sgil gweithio o adref a phobol yn ailasesu eu ffyrdd o fyw.
Yng Nghymru, mae’r mater unigryw o ail gartrefi, sydd wedi gwaethygu chwyddiant yn y farchnad dai mewn sawl rhan o’r wlad.
Mae Llywodraeth Cymru, yn eu cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, wedi ymrwymo i gymryd camau radical i fynd i’r afael â’r argyfwng ar frys.
Fe wnaethon nhw ddewis ardal Dwyfor, sy’n cynnwys Pen Llŷn a’r ardal i’r gorllewin o Borthmadog, ar gyfer cynllun peilot, a fydd yn cychwyn fis Ionawr, gyda £1m ar gael i brynu ac adnewyddu cartrefi gwag yn yr ardal.
‘Perfformiad cryf a pharhaus’
Eglurodd Richard Sexton, cyfarwyddwr cwmni e.surv, bod y farchnad yng Nghymru wedi bod yn gryf ers rhai misoedd.
“Mae Cymru wedi parhau i berfformio’n well na rhanbarthau eraill ac yn parhau i feddiannu’r safle cyntaf yn y tabl twf prisiau am y chweched mis yn olynol,” meddai.
“Mae’r gystadleuaeth am le yn ystod y pandemig wedi cefnogi’r galw am eiddo yng Nghymru.
“Hefyd, mae twf y farchnad ail gartrefi yng Nghymru wedi dal sylw llawer o sylwebwyr a llunwyr polisi.
“Fodd bynnag, dydy’r perfformiad cryf a pharhaus sydd wedi ei weld yng Nghymru ddim wedi cael ei ailadrodd ar draws Prydain.
“Mae newid sylweddol wedi bod yn llwyddiant y farchnad mewn ardaloedd fel Gogledd Orllewin Lloegr, sydd wedi llithro o’r ail safle ym mis Mehefin i’r wythfed safle erbyn hyn.”