Mae Liz Truss wedi dweud bod gan yr Undeb Ewropeaidd “gyfrifoldeb clir” i ddatrys y problemau sydd wedi’u hachosi gan y gytundeb ôl-Brexit yng Ngogledd Iwerddon, wrth iddi baratoi ar gyfer ei thrafodaethau wyneb-yn-wyneb cyntaf gyda Maros Sefcovic.
Bydd yr Ysgrifennydd Tramor, sydd wedi cymryd cyfrifoldeb am y trafodaethau yn dilyn ymddiswyddiad yr Arglwydd Frost, yn croesawu is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Mr Sefcovic, i eiddo gwledig yr Ysgrifennydd Tramor – sydd yn Chevening yng Nghaint – ar gyfer trafodaethau ddydd Iau a dydd Gwener.
Dywedodd Truss fod yn rhaid i’r Undeb Ewropeaidd ddangos “ymagwedd bragmatig” i ymdrin â’r problemau a grëwyd gan Brexit a Phrotocol Gogledd Iwerddon.
Mae’r protocol i bob pwrpas yn creu rhwystr masnach ym Môr Iwerddon ar gyfer nwyddau o Brydain Fawr – a hynny er mwyn atal ffin galed ag Iwerddon.
Dywedodd Ms Truss: “Mae cytundeb i’w wneud sy’n amddiffyn heddwch yng Ngogledd Iwerddon, yn amddiffyn ein hundeb, yn cynnal uniondeb y Deyrnas Unedig, ac yn bodloni’r Undeb Ewropeaidd.
“Ond bydd angen ymagwedd bragmatig gan yr Undeb Ewropeaidd.
“Byddaf yn cyflwyno atebion ymarferol a rhesymol gan ddechrau o’r egwyddorion sylfaenol hyn, gyda’r bwriad o gytuno ar gynllun ar gyfer trafodaethau dwys.
“Mae gan yr Undeb Ewropeaidd gyfrifoldeb clir i helpu i ddatrys y llu o broblemau a achosir gan y protocol a diogelu Cytundeb Belfast (Dydd Gwener y Groglith).
“Fel cyd-gredwyr mewn rhyddid a democratiaeth, dylem allu dod i gytundeb sy’n cyflawni ar gyfer Gogledd Iwerddon ac sy’n ein galluogi i ryddhau potensial llawn ein perthynas”.