Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei herio i “ymyrryd ar frys” a helpu aelwydydd sy’n cael trafferth wrth i filiau gynyddu ar drothwy yr hyn a allai fod yn ‘argyfwng costau byw’.

Mae gweinidogion cyllid o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi uno i fynnu bod Llywodraeth y deyrnas Unedig yn gweithredu.

Galwodd gwleidyddion o Gaerdydd, Caeredin a Belfast am gynllun i fynd i’r afael â’r argyfwng.

Daeth eu ple yn dilyn cyfarfod gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, Simon Clarke.

Dywedodd gweinidog cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, fod angen i aelwydydd “weld camau brys gan y Trysorlys i helpu pobl gyda biliau a chostau byw wrth iddynt gynyddu”.

Dywedodd biliau’n cynyddu yn “bryder penodol ar hyn o bryd, gyda mwy a mwy o bobl yn byw mewn tlodi tanwydd”.

Daw hyn ar ôl i chwyddiant ar draws y Deyrnas Unedig godi i 5.1%, gydag aelwydydd hefyd yn wynebu biliau uwch am fwyd a thrafnidiaeth.

‘Rhan fwyaf o’r pwerau ac adnoddau yn nwylo llywodraeth y Deyrnas Unedig’

Er i Ms Evans ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £50 miliwn yn ceisio helpu, dywedodd fod y “rhan fwyaf o’r pwerau a’r adnoddau cyllidol sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw yn nwylo Llywodraeth y DU”.

Mynnodd: “Mae’n rhaid i’r Trysorlys gamu i fyny. Byddai cymorth ychwanegol drwy gynlluniau wedi’u targedu ledled y Deyrnas Unedig, fel y Gostyngiad Cartrefi Cynnes a thaliadau tanwydd gaeaf eraill, yn lleihau’r baich ar aelwydydd sydd dan bwysau mawr.”

Ategwyd ei galwad gan Ysgrifennydd Cyllid yr Alban, Kate Forbes, a ddywedodd: “Mae pobl yn wynebu argyfwng costau byw ac mae’n rhaid i Lywodraeth y DU, a lleihaodd y cynnydd mewn Credyd Cynhwysol ym mis Hydref er gwaethaf ein sylwadau, ymyrryd ar frys.”

“Adnoddau cyfyngedig”

Dywedodd fod gweinidogion yn yr Alban wedi “nodi ystod o gamau uchelgeisiol”, fel cynlluniau i ddyblu’r taliad wythnosol sy’n mynd i deuluoedd incwm isel i £20, ond pwysleisiodd fod gan Holyrood “adnoddau cyfyngedig”.

Yn y cyfamser, dywedodd Conor Murphy, y gweinidog cyllid yng Ngogledd Iwerddon: “Mae’r argyfwng costau byw yn achosi caledi i deuluoedd a busnesau.

“Rwyf wedi bod yn galw ar y Trysorlys i atal TAW dros dro ar filiau ynni i roi seibiant yn ystod cyfnod anodd y gaeaf. Mae’n bryd i’r Trysorlys weithredu nawr.”

‘Cymorth Covid pan fo’i angen – nid dim ond yn unol â Lloegr’

Ailadroddodd gweinidogion y tair gwlad hefyd eu galwadau am ddarparu cyllid ychwanegol i ymateb i bandemig Covid pan fo angen – ac nid dim ond pan ddarperir cymorth ychwanegol yn Lloegr.

Dywedodd Ms Evans: “Rhaid i’r Trysorlys gydnabod pwysigrwydd cefnogi gwledydd datganoledig yn llawn i helpu i ddiogelu ein busnesau a diogelu ein poblogaethau.”

Dywedodd Mr Murphy: “Rydym wedi bod yn galw ar y Trysorlys i adfer y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogedig a’r cynllun ffyrlo ar sail wedi’i dargedu lle bo angen.

“Mae’n siomedig nad yw’r Trysorlys yn fodlon rhoi cymorth i weithwyr a’u teuluoedd. Byddem yn gofyn i’r Trysorlys ailystyried y sefyllfa hon ar frys.”

Ac fe ddywedodd Ms Forbes: “Nid yw’n deg mai penderfyniadau iechyd cyhoeddus yn Lloegr yn unig sy’n sbarduno cyllid. Mae angen system sy’n cefnogi penderfyniadau pob gweinyddiaeth ddatganoledig.”

Ymateb y Trysorlys

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: “Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gweithio’n agos gyda’r gweinyddiaethau datganoledig drwy gydol y pandemig ac mae’n parhau i wneud hynny, gan gynnwys drwy gyfarfod y Gweinidogion Cyllid heddiw [ddoe – dydd Mercher 12 Ionawr].

“Mae pecyn cymorth Covid gwerth £400 biliwn Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cefnogi pobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig, ac ym mis Rhagfyr rydym newydd sicrhau bod £860 miliwn o gyllid ychwanegol ar gael i’r gweinyddiaethau datganoledig i’w helpu i ymateb i’r heriau a gyflwynir gan Omicron.

“Byddem yn annog y gweinyddiaethau datganoledig i ddefnyddio’r cyllid hwn i ddarparu’r cymorth brys sydd ei angen ledled Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

“Rydym hefyd yn cydnabod bod pobl yn wynebu pwysau costau byw, a dyna pam rydym yn cymryd gwerth £4.2 biliwn o gamau pendant i helpu.”