Dyma’r cyfraddau Covid-19 ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru

Mae’r ffigurau, am y saith diwrnod hyd at Ionawr 8, yn seiliedig ar nifer y bobl sydd wedi profi’n bositif am Covid-19 mewn prawf a adroddwyd gan labordy.

Mynegir y gyfradd fel nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl.

Mae data ar gyfer y pum diwrnod diwethaf (Ionawr 9-13) wedi’i eithrio gan ei fod yn anghyflawn ac nid yw’n adlewyrchu gwir nifer yr achosion.

Ffigurau

Amcangyfrifir bod  gan  un  ym  mhob  20 person  y  feirws  yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae hyn yn cymharu ag un ym mhob 15 yn Lloegr.

Castell-nedd Port Talbot sydd â’r gyfradd uchaf yng Nghymru (1,877.6, i lawr o 2,450.4). Mae’r  tri  uchaf  oll  yng  Nghymoedd y De (Blaenau Gwent  yn  ail,  Caerffili’n  drydydd),  gydag  Abertawe’n  bedwerydd  ar  y  rhestr (1660.4, i lawr o 2327.6).

Fodd bynnag, gwelwyd cwymp ym mhob awdurdod lleol.

Cyfrifwyd y rhestr gan ddefnyddio data a gyhoeddwyd ar 12 Ionawr ar ddangosfwrdd coronafeirws y Llywodraeth.

Y rhestr lawn

O’r chwith i’r dde: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd ionawr 8; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd ionawr 8; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Ionawr 1; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd ionawr 1.

Castell-nedd Port Talbot, Cymru, 1877.6, (2711), 2450.4, (3538)

Blaenau Gwent, Cymru, 1743.8, (1221), 2949.2, (2065)

Caerffili, 1662.9, (3022), 2380.4, (4326)

Abertawe, 1660.4, (4094), 2327.6, (5739)

Rhondda Cynon Taf, 1650.5, (3992), 2884.2, (6976)

Pen-y-bont ar Ogwr, 1623.3, (2395), 2383.8, (3517)

Wrecsam, 1608.9, (2189), 2048.4, (2787)

Merthyr Tudful, 1597.0, (965), 2906.1, (1756)

Casnewydd, 1562.8, (2445), 2294.1, (3589)

Conwy, 1562.8, (1847), 2425.0, (2866)

Sir Gaerfyrddin, 1516.3, (2882), 1916.1, (3642)

Sir y Fflint, 1506.6, (2363), 2271.6, (3563)

Ynys Môn, 1415.4, (997), 1949.2, (1373)

Torfaen, 1368.7, (1298), 2551.9, (2420)

Caerdydd, 1367.8, (5050), 2077.2, (7669)

Sir Ddinbych, 1351.1, (1306), 2015.2, (1948)

Powys, 1280.9, (1704), 1692.9, (2252)

Bro Morgannwg, 1219.6, (1650), 2155.3, (2916)

Sir Benfro, 1201.6, (1523), 1629.2, (2065)

Gwynedd, 1118.5, (1400), 1940.5, (2429)

Ceredigion, 935.6, (682), 1808.1, (1318)

Sir Fynwy, 932.1, (887), 1435.4, (1366)