Gyda bron i ddwy flynedd ers i Gymru a’r byd glywed am goronafeirws, mae 2022 yn edrych fel bydd Covid-19 unwaith yn rhagor yn rhan ganolog o’n bywydau ac wrth galon y drafodaeth wleidyddol.

Ben Lake yw Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion ac wrth deithio o Lambed i Lundain ar drên – taith wythnosol ers ei ethol yn 2017 – bu yn sôn wrth gylchgrawn Golwg am y flwyddyn sydd o’i flaen a’r hyn sydd i’w ddisgwyl yng Nghymru a San Steffan.