Mae capten newydd Clwb Criced Morgannwg wedi dweud wrth Golwg ei fod e’n teimlo’n “freintiedig” fel y gogleddwr cyntaf i gael ei benodi i’r rôl ers Wilf Wooller yn 1947. Daeth cadarnhad yn ddiweddar y bydd David Lloyd yn olynu’r wicedwr Chris Cooke, sydd wedi camu o’r neilltu ar ôl tair blynedd wrth y llyw.