I ddechrau, Boris a’r datgeliadau diweddara’ am fywyd cymdeithasol llawn Downing Street yn ystod y pandemig. Yn ôl Peter Black, mae’r neges gliria’ i aelodau mainc cefn Torïaidd sy’n dal dyfodol y Prif Weinidog – ym mhob ystyr – yn eu dwylo …
“Dylen nhw wybod, o ran barn ac ymddiriedaeth y cyhoedd, bod y drosedd honedig gan Johnson yn un fawr… os yw’r cyhuddiadau’n wir, fe dorrodd y Prif Weinidog y gyfraith ac mae disgwyliad rhesymol y dylai Heddlu Llundain fod yn cicio drws 10 Downing Street i’r llawr i gyhuddo’r holl ddrwgweithredwyr. Yn hytrach, fel y basech chi’n disgwyl, mae llu Cressida Dick wedi anfon e-bost… roedd y digwyddiadau yn ystod cyfnod pan oedd pawb arall dan glo, heb allu cymdeithasu gyda theulu a ffrindiau, heb allu ymweld ag anwyliaid mewn cartrefi gofal ac yn colli perthnasau ac yna’n methu â threfnu angladd iawn iddyn nhw. Os nac ydi hyn yn destun ymddiswyddo, beth sydd?” (peterblack.blogspot.com)
Yn y cyfamser, meddai Leanne Wood, mae Llywodraeth San Steffan yn y broses o roi rhagor o rymoedd i’r heddlu ac awdurdodau eraill…
“…gall heddleuoedd, asiantaethau cuddwybodaeth, y lluoedd arfog, adrannau llywodraeth ac eraill awdurdodi unrhyw un, gan gynnwys plant a phobl fregus, i gyflawni unrhyw drosedd, gan gynnwys llofruddiaeth, treisio a phoenydio ‘yn ystod, neu yn gysylltiedig fel arall â’ gweithrediadau cudd’. Y cyfiawnhad? Er ‘budd’ ‘diogelwch gwladol’ a ‘lles economaidd y Deyrnas Unedig’, sydd, wrth gwrs, yn gallu golygu unrhyw beth a phopeth.” (thenational.wales)
Yn yr Alban, mae rhai fel Michael Russell yn gweld ymdrech arall i godi ofn… tros annibyniaeth… a’r syniad o ‘devo-max’ yn cael ei atgyfodi i geisio atal yr ymgyrch…
“Rhaid mai gwers y 40 mlynedd diwethaf yw mai gallu San Steffan i gynnal ofn yr Alban o newid sydd wedi galluogi’r Undeb i oroesi, gyda holl oblygiadau niweidiol hynny.
Er hynny, sefydliad gwleidyddol y Deyrnas Unedig sy’n ofni nawr – yn ofni’r mwyafrif clir sydd o blaid annibyniaeth. Dyna sydd y tu ôl i ddyfodiad eto fyth yr hen greadur truenus hwnnw, devo-max.
Mae ei amser wedi hen fynd heibio. Rhaid ei gloi mewn cawell am byth, gan ryddhau llew Albanaidd newydd hyderus ac uchelgeisiol.” (thenational.scot)