Tafarn Ty’n Llan yn croesawu cwsmeriaid

Dros y gwyliau agorodd Tafarn Ty’n Llan, Llandwrog, ei drysau am y tro cynta’ ers i’r fenter gymunedol lwyddo i’w hachub.

Mewn stori ddifyr ar y wefan fro, cawn ddod i adnabod rheolwraig ifanc y bar – Catrin Jenkins – y ferch o Landwrog a dyfodd i fyny dafliad carreg o’r dafarn.

Dywedodd Catrin ei bod yn llawn cyffro am y swydd, ond ei bod yn sylweddoli bod tipyn o waith i’w wneud wrth i’r fenter geisio adeiladu estyniad a datblygu bwyty yn y dyfodol.

Os ydych yn mynd heibio Llandwrog eleni, beth am biciad i mewn i Ty’n Llan?

Tafarn Ty’n Llan yn Croesawu Cwsmeriaid

Hannah Hughes

Croeso Cynnes gan Reolwraig Bar Newydd Tafarn Ty’n Llan – Catrin Jenkins

Eira mawr 1982

Mae eira wedi bod yn rhywbeth prin yn y blynyddoedd dwetha, ond pwy sy’n cofio’r eira mawr mewn rhannau o Gymru yn 1982?

Mae trigolion Clonc360 wedi bod yn rhannu lluniau ac atgofion o eira mawr 40 mlynedd yn ôl.

Mae’n werth i chi bori trwy’r blog yma, a stori debyg ar BroAber360, i weld maint y lluwchfeydd wrth y tai ac ar y ffyrdd.

Eira mawr 1982

Nia Wyn Davies

Ydy chi’n cofio eira mawr 1982 – 40 o flynyddoedd yn ôl? Ble oeddech chi? Beth yw’ch atgofion?

Atgyfodi – sengl newydd Dafydd Hedd yn taro nodyn gobeithiol

Mae’r cerddor Dafydd Hedd o Fethesda wedi arwyddo gyda label Bryn Rock ac yn edrych ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod wrth iddo ryddhau sengl newydd.

Mae Atgyfodi allan ar 14 Ionawr. Mae Dafydd yn ei ddisgrifio fel sengl electronig neu “dance-pop” ond efo neges glir yn y geiriau sef “paid â bod ofn gwneud be’ ti isho”.

Yn yr erthygl gan Ogwen360 mae Dafydd yn sôn am ei brofiad ddiweddar o arwyddo gyda label newydd a’i obeithion tuag at 2022.

269834702_498802294864995

Atgyfodi – sengl newydd Dafydd Hedd yn taro nodyn gobeithiol

Carwyn

Mae’r cerddor lleol wedi arwyddo gyda label ‘Bryn Rock’ ac yn edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod