Mae’r gwleidyddion wedi bolltio nôl am y Bae’r wythnos hon… wel, o leiaf yn agor y gliniaduron wedi’r Nadolig, wrth i’r Senedd gwrdd yn rhithiol am y tro.

Mi fyddan nhw yn twrio trwy fewnflychau llawn e-byst gan etholwyr ac yn wynebu cyfeillion a gelynion gwleidyddol wedi tair wythnos i ffwrdd.

Ond o leiaf bydd hynny drwy sgrin… mae gan weithio o adref fanteision sbo!

Er tegwch, dydy hi heb fod yn fawr o ‘wyliau’ i’r dyn wrth y llyw.