Ddwy flynedd ers rhoi’r gorau i fod yn athrawes, mae dynes o dref fach ym Mhowys wedi ennill Gwobr Aur yng nghystadleuaeth Cawsiau Gorau’r Byd 2021-22, yn ogystal â chipio’r wobr am y Caws Cymreig Gorau.

Ac mae Clare Jones o Drefaldwyn yn llawn canmoliaeth i Lywodraeth Cymru am yr help a gafodd wrth sefydlu ei busnes creu caws.