Y Llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

100 Cymru – Y Mynyddoedd a Fi gan Dewi Prysor. Cefais hwn yn anrheg Nadolig. Mae gen i gasgliad o lyfrau am dirwedd Cymru byth ers imi sylweddoli, ar ôl tipyn o deithio tramor, mai Cymru yw’r wlad harddaf, a mwyaf amrywiol ei golygfeydd, yn y byd. Yn mwynhau lluniau’r gyfrol hon, y cerddi, a phrofiadau personol yr awdur o’i deithiau cerdded.

Y llyfr newidiodd fy mywyd