Felly dyma ni, fy rhifyn ola’ fel Prif Olygydd Golwg a Golwg360, ma’ hi’n bryd mynd M. O. M. (mas o ’ma, i’r sawl sy’ ddim yn gyfarwydd â’r talfyriad!).

Ma’i wedi bod yn gyfnod… gwahanol, bois bach. Fe ddechreues i ar drothwy’r cyfnod clo cynta’ drwy fynd i’r swyddfa yng Nghaernarfon i weud helo – cyn gorfod neidio nôl ar y trên yr un diwrnod wrth i’r clo mawr cynta’ gael ei gyflwyno.

Wrth i fi osgoi’r pesychwr peryglus ar yr hen drên sigledig o’r Gogledd i’r De, a thecstio’r Dirprwy Olygydd am shwt ddiawl fydden ni’n parhau i gyhoeddi dan glo, sai’n credu ’mod i’n llwyr ddeall mawredd yr hyn oedd i ddod – ac y bydden ni, i bob pwrpas, yn styc yn ein cartrefi am weddill fy nghyfnod wrth y llyw!

Ond fe ymdopon ni – ac ma raid ifi ddiolch i’r holl staff am hynny. Buodd rhai problemau – cysylltiadau gwe gwael, gwaith ffyrdd yn digwydd reit tu fas i ffenestri – ond fe aeth Golwg i’r wasg bob wythnos yn llawn pethe diddorol.

Diolch i holl staff Golwg a Golwg360 am hynny – gohebyddion yn gweithio’n galed ac yn gwneud eu gorau glas o’u hystafelloedd gwely! Gohebyddion Senedd oedd yn methu mynd i’r Senedd! Erthyglau cerddoriaeth, chwaraeon a chelf heb gigs nac arddangosfeydd na gemau am gyfnod! Fe nathoch chi’n wych, diolch.

Ma raid ifi gyfadde ’mod i wedi ffindo gweithio gartref yn reit intense ar brydiau – dw i yn lico clebran, welwch chi. A hyd yn oed heddi – ar ôl dwy flynedd, bron – does gan y gath ’ma sy’n gwmni i fi ddim barn ar Boris a’i giwed, na mewnwelediad i bosibiliadau’r cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru. Dim yw dim. Gwyn ei byd!

Yn y cyfnod yma, fe lansion ni Golwg360 ar ei newydd wedd – er mai pobol glyfrach na fi sy’n gyfrifol am hynny – a chyda hynny, rhoddwyd cylchgrawn Golwg ar y We am y tro cynta’.

Diolch hefyd i golofnwyr difyr Golwg – hen a newydd – smo fe’n hawdd sgwennu’n ddifyr am rwbeth yn wythnosol neu’n bythefnosol – dwi’n gwbod hynny bellach gyda’r golofn hon! – ond ma’ nhw’n neud e bob tro.

Ma’ ’na gydbwysedd reit dda, hefyd, sy’n bwysig yn y cyfryngau Cymraeg, dw i’n credu.

Mae’r We a’i halgorithmau’n gyrru cyfryngau’r byd at sefyllfa lle ma’ pawb yn darllen a rhannu pethe ma’ nhw’n cytuno â nhw yn unig, tuag at drefn led-Americanaidd lle ma rhai’n gwylio ac yn darllen hyn-a-hyn, ac eraill yn gwylio ac yn darllen hyn-a’r llall.

Ond dyw’r gêm ddim cweit mor hawdd yn Gymraeg – mae’n bwysig cynnig rhwbeth bach i bawb. A mewn gwirionedd ma hynna’n beth iach.

I’r perwyl hwnnw, cyn i fi fynd yr wythnos hon, byddwn ni’n lansio adran Safbwynt ar ei newydd wedd ar Golwg360 – lle gallwch chi gyfrannu’ch safbwynt ar unrhyw fater i’w gyhoeddi ar y wefan. Gallwch chi gofrestru’n rhad ac am dim, a defnyddio’ch cyfrif i gyfrannu at drafodaeth Gymraeg am faterion y dydd. Rhowch gynnig ar hwnnw pan fydd Twitter yn rhy gyfyngedig, bobol!

Diolch, hefyd, am yr adborth dw i ’di cal – wel, peth ohono fe ta beth!

Dw i’n meddwl mai fy hoff adborth oedd e-bost a gyrhaeddodd ar ôl i ni ailwampio’r wefan a lansio Golwg+ yn dwyn y pennawd addawol ‘Gair o glod’. ‘Aha,’ medde fi’n ecseitud reit ac wrth fy modd, ‘clod, lyfli, hen bryd’. Dyma agor yr e-bost yn awyddus, fel plentyn ar ddiwrnod Nadolig: ‘Gair o glod haeddiannol,’ medde’r ebost gan ddechre’n dda, ‘…am orchudd ailgylchadwy newydd y cylchgrawn – mae’n gwneud bin bwyd defnyddiol iawn’.

Wel, ddim cweit y clod oni’n deisyfu – ond fe gymrwn ni fe! A ma fe’n fater pwysig, wedi’r cyfan!

Dyna ni, mwynhewch y rhifyn. Mae’r cylchgrawn a’r wefan mewn dwylo diogel – ac ar ôl hoe fach, bydda’i nôl gyda cholofn bythefnosol yn y man. Hwyl am y tro, a diolch am ddarllen!