Dydw i ddim yn ffan o’r adeg hon o’r flwyddyn. Mae’n dywyll ac yn wlyb sy’n gwneud mynd â’r ci am dro’n orchwyl argoelus, yn gwybod yn iawn y bydd y carped yn llawn mwd ar ei ôl. Mae yna ryw orfodaeth i feddwl am fwyta’n iachach wedi gloddesta’r Nadolig (dw i wedi rhoi o leiaf hanner stôn ymlaen a heb allu ffitio mewn i unrhyw ddilledyn a brynwyd i mi, heblaw am bâr o drainers), a hynny ar adeg pan fo digonedd o stoj dal yn hanfodol. Ac wedi’r gwario, awydd i gynilo. Dim tafarn. Dim gwario ar rw