Mae Cynghorydd o Wynedd wedi ei henwebu ar gyfer gwobrau ‘Hearts For Arts’.
Daw’r gydnabyddiaeth i Ffion Meleri Gwyn am ei gwaith yn darparu arweinyddiaeth i ystod o brosiectau creadigol ar ran Cyngor Tref Criccieth.
Mae’r gwobrau ‘Hearts For Arts’ yn dathlu pobol sy’n hyrwyddo’r celfyddydau mewn awdurdodau lleol ym mhob cwr o wledydd Prydain.
Roedd tri chategori ar gyfer y gwobrau eleni: Prosiect Celfyddydau Gorau; Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Gweithiwr Awdurdod Lleol neu Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol; a Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau.
Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis o’r rhestr fer gan banel o feirniaid sy’n arbenigwyr yn y diwydiant celfyddydol.
Eleni, mae’r panel yn cynnwys:
Andy Dawson – enillydd gwobr HFTA 2021 ar gyfer Pencampwr Celfyddydau Gorau – Awdurdod Lleol neu Weithiwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol
Krishnan Guru-Murthy – newyddiadurwr a chyflwynydd Channel 4 News
Kadiatu Kanneh-Mason – awdur, siaradwr a chefnogwr addysg cerddoriaeth
Shaparak Khorsandi – digrifwr, llenor, hyfrydwch cyffredinol
Anna Lapwood – organydd, arweinydd a darlledwr
Deborah Meaden – gwraig fusnes
Jack Thorne – sgriptiwr a dramodydd
Samuel West – actor a chyfarwyddwr, Ymddiriedolwr NCA
Bydd enillwyr Gwobrau ‘Hearts for the Arts’ 2022 yn cael eu datgelu ar Ddydd San Ffolant, 14 Chwefror 2022.
“Ysbryd cymunedol cryf”
Wrth drafod enwebiad y Cynghorydd Ffion Meleri Gwyn, dywedodd partneriaid Gwobr Hearts for the Arts: “Mae’r Cynghorydd Ffion Meleri Gwyn yn ymgorffori’r ysbryd cymunedol cryf sy’n amlwg yn ardal Cyngor Tref Criccieth.
“Mae’n hawdd iawn i gynrychiolwyr etholedig wneud areithiau ac ymrwymiadau aruchel i wella ardal.
“Mae’n llawer anoddach iddynt wneud gwahaniaeth mewn gwirionedd, a bod yn gysylltiedig ag ef yn bersonol fel y Cynghorydd Gwyn.”
“Pleser ac anrhydedd”
“Mae’n bleser ac yn anrhydedd i mi fod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon sy’n deyrnged i waith anhygoel ac ymrwymiad aelodau o’n cymuned, o’r ifanc i’r hen, mewn cymaint o brosiectau cofiadwy,” meddai’r Cynghorydd Ffion Meleri Gwyn.
“Rydym yn byw mewn cyfnod digynsail ac mae’n wych gallu estyn allan trwy ein mentrau creadigol amrywiol i gynnwys cannoedd yn ein cymuned ddwyieithog.
“Mae hyn wedi rhoi hwb i les pob un ohonom.”
Nid dyma’r tro cyntaf i Gyngor Tref Criccieth fod yn y ras am wobr – mae eu project ‘Criccieth Creadigol’ eisoes wedi denu clod.