Ni fydd cerbyd brenhinol Yr Iseldiroedd yn cael ei ddefnyddio am y tro oherwydd bod darlun arno sy’n gogoneddu eu hanes gwladychol.

Mae Coets Aur y brenin yn cynnwys lluniau o gaethweision du ac Asiaidd, sy’n cyfleu cyfnod y wlad fel grym ymerodrol yn rhwng y 17eg a’r 20ain ganrif.

Daeth y cyhoeddiad gan y Brenin Willem-Alexander bod y goets yn cael ei rhoi i’r naill ochr wrth i’r Iseldiroedd ddod i dermau gyda chyfnod tywyll yn ei hanes.

Bydd y cerbyd yn cael ei arddangos mewn amgueddfa yn Amsterdam yn y cyfamser, ar ôl cario brenhinoedd drwy strydoedd Yr Hâg ar gyfer agoriad senedd Yr Iseldiroedd bob mis Medi.

‘Dim pwynt condemnio a diarddel’

Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd y brenin y gallai’r goets gael ei defnyddio yn y dyfodol “pan mae’r Iseldiroedd yn barod”.

“Does dim pwynt condemnio a diarddel yr hyn sydd wedi digwydd trwy lens ein hoes ni,” meddai’r Brenin Willem-Alexander, sydd ar yr orsedd ers 2013.

“Yn syml, dydy gwahardd gwrthrychau a symbolau hanesyddol ddim yn ateb chwaith.

“Yn lle hynny, mae angen ymdrech ar y cyd sy’n mynd yn ddyfnach a chymryd fwy o amser – ymdrech sy’n ein huno ni yn lle’n rhannu ni.”

Dydy hi ddim yn edrych yn debyg felly y bydd y cerbyd yn cael ei addasu er mwyn cael gwared â’r lluniau, sy’n dangos caethweision yn penlinio a chynnig nwyddau i ddynes wen, sy’n symbol o’r Iseldiroedd a’u masnachu rhyngwladol yn y cyfnod.

‘Esgus’

Roedd Mitchell Esajas, ymgyrchydd gwrth-hiliaeth a chyd-sylfaenydd Archifdy’r Bobol Dduon yn Amsterdam, yn dweud bod datganiad y brenin yn “arwydd da,” ond y “peth lleiaf” y gallai brenin ei wneud o ystyried y sefyllfa.

“Mae’r Brenin yn dweud bod dim modd edrych ar y gorffennol o safbwynt a gwerthoedd y presennol,” meddai.

“Dw i’n meddwl bod hynny’n gelwydd oherwydd yn y cyd-destun hanesyddol, gall caethwasiaeth gael ei weld fel trosedd yn erbyn dynoliaeth a system dreisgar.

“Dw i’n meddwl bod y ddadl honno’n cael ei defnyddio’n aml fel esgus i roi sglein ar ei hanes treisgar.”

Mae’r Iseldiroedd, fel llawer o wledydd, yn ailystyried llawer o’u hanes gwladychol.

Y llynedd, cafodd arddangosfa ei chynnal yn yr amgueddfa genedlaethol, y Rijksmuseum, yn dangos rôl onest y wlad yn y fasnach gaethweision.

Fe wnaeth maer Amsterdam, Femke Halsema, hefyd ymddiheuro am rôl llywodraethwyr y brifddinas yn y fasnach yn y gorffennol.