Gallai cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru gael eu codi’n raddol erbyn diwedd mis Ionawr, yn ôl Mark Drakeford.
Daw hyn ar ôl i gyfraddau achosion ddechrau lleihau, ac mae disgwyl y bydd y don Omicron wedi cymedroli erbyn mis Chwefror.
Bydd y Prif Weinidog yn diweddaru’r cyhoedd mewn cynhadledd yn ddiweddarach heddiw (dydd Gwener, Ionawr 14), lle mae disgwyl iddo gyhoeddi diwygiadau i’r mesurau sydd ar waith.
Mae’r cyfyngiadau presennol, a gafodd eu cyflwyno ar Ddydd San Steffan, yn golygu bod clybiau nos ar gau, bod y rheol chwe unigolyn ar waith mewn lleoliadau lletygarwch, yn ogystal â mesurau pellter cymdeithasol yn y gweithle.
Ar ben hynny, mae digwyddiadau chwaraeon proffesiynol yn cael eu cynnal heb gefnogwyr, ond gallai hynny ddod i ben erbyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, dylid cyflwyno polisïau fydd yn caniatáu i bobol Cymru ddechrau “byw gyda coronafeirws” yn lle’r cyfyngiadau presennol.
‘Gallwn godi rhai o’r cyfyngiadau’
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford wrth raglen Today ar BBC Radio 4, ei bod hi’n edrych yn addawol ar hyn o bryd o ran llacio’r cyfyngiadau.
“Oherwydd bod y data a’r wyddoniaeth yn dweud wrthon ni – fel y gwnaeth y modelu sydd gennym ni yng Nghymru ei ragweld – mae’n ymddangos ein bod ni wedi mynd heibio uchafbwynt Omicron, ac yn dod i lawr yn gyflym iawn,” meddai.
“Mae hynny’n rhoi hyder i ni dros y bythefnos nesaf y gallwn godi rhai o’r cyfyngiadau yr oedd eu hangen arnom ni dros gyfnod y Nadolig yn raddol ac yn ofalus, oherwydd o safbwynt iechyd y cyhoedd bydd yn ddiogel i wneud hynny.”
Ychwanegodd nad yw’r mesurau sydd ar waith wedi achosi ergyd ariannol enfawr i fasnach a lletygarwch yng Nghymru.
Fe wnaeth e feirniadu’r cyfyngiadau mwy llac sydd yn Lloegr, gan ddweud eu bod nhw wedi arwain at “filoedd ar filoedd” o bobol yn methu â chyflawni eu swyddi oherwydd salwch.
“Mae llywodraeth Lloegr wedi’i pharlysu drwy gydol y broses hon ac yn syml, nid yw wedi gallu gwneud penderfyniadau,” meddai.
“Yng Nghymru, mae gennym ni lywodraeth sy’n barod i wneud pethau anodd pan maen nhw’n angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd.”