Dywed arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan bod “celwyddau Boris Johnson wedi mynd yn rhy bell,” wrth iddi alw am gyfraith i gosbi gwleidyddion sy’n eu rhaffu nhw.

Mewn cynnig i Senedd y Deyrnas Unedig, mae’r Blaid wedi galw am gyflwyno cyfraith er mwyn gwneud hi’n drosedd i wleidyddion ddweud celwydd wrth y cyhoedd ar bwrpas.

Maen nhw wedi derbyn cefnogaeth gan aelodau seneddol o’r Blaid Lafur, yr SNP, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion.

Yn ei chynnig, fe wnaeth Liz Saville Roberts gondemnio partïon yn Stryd Downing yn ystod y cyfnod clo, yn ogystal â Llywodraeth y Deyrnas Unedig am ddangos “diffyg tryloywder” ac “amharodrwydd i ddatgan eu presenoldeb” yn y digwyddiadau.

Mae rhagor o honiadau wedi dod i’r amlwg dros y dyddiau diwethaf am ddau barti arall a gafodd eu cynnal yn Stryd Downing, gan gynnwys un a ddigwyddodd y noson cyn angladd Dug Caeredin.

Er iddo ymddiheuro yn y Senedd ddydd Mercher, 12 Ionawr, mae nifer o wleidyddion yn parhau i alw ar y Prif Weinidog i ymddiswyddo, gan gynnwys arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, Douglas Ross.

‘Digon yw digon’

Wrth siarad yn sgil yr honiadau newydd hyn, dywedodd Liz Saville Roberts, sy’n Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd, bod hi’n “iawn i’r cyhoedd fynnu bod Boris Johnson yn cael ei ddwyn i gyfrif.”

“Digon yw digon,” meddai.

“Mae celwyddau Boris Johnson wedi mynd yn rhy bell a dydy San Steffan ddim yn gallu ei ddwyn i gyfrif. Rydyn ni angen cyfraith ar frys i atal y rheiny sy’n dweud celwydd rhag llygru ein gwleidyddiaeth.

“Mae’r Prif Weinidog wedi cael dweud celwydd trwy ei fywyd, gan wneud ffyliaid ohonom ni i gyd yn y broses.

“Ond pan fo’r celwyddau mor amlwg, y datganiadau mor rhagrithiol, a phoen a cholled yn ystod cyfnodau clo Covid yn dal i gael ei deimlo i’r byw, mae’r cyhoedd yn iawn i fynnu bod Boris Johnson yn cael ei ddwyn i gyfrif.

“Byddai ein cynnig yn dod â’r mesurau sydd eisoes yn rheoleiddio busnes i mewn i wleidyddiaeth.

“Byddai’n ofynnol bod datganiadau cyhoeddus sy’n cael eu gwneud gan wleidyddion, hyd eithaf eu gwybodaeth, yn ffeithiol ac yn gywir, a byddai’n creu mecanwaith newydd ac annibynnol i herio a dwyn i gyfrif y rhai sy’n cael eu hamau o ddweud celwydd.

“Rwy’n annog aelodau o bob rhan o’r Tŷ i ymuno â’n galwadau am ddadl ar gyfraith i atal y celwyddau cyn gynted â phosibl.”

‘Clwy gwirioneddol’

Fe wnaeth Plaid Cymru alw ar y felin drafod, Compassion in Politics, i lunio’r cynnig ar gyfer y gyfraith newydd.

Roedd eu cyfarwyddwr Matt Hawkins yn dweud eu bod nhw “wrth eu boddau” yn cydweithio â’r Blaid er mwyn diwygio’r system.

“Mae datgeliadau diweddar yn pwyntio at glwy’ gwirioneddol wrth galon ein gwleidyddiaeth,” meddai.

“Er mwyn ein democratiaeth a’r bobol y mae i fod i’w gwasanaethu, mae angen gweithredu ar frys i lanhau, diwygio, a gwella’n sylweddol y safonau, gwerthoedd, a moeseg yn ein system wleidyddol.

“Does dim modd cael un system ar gyfer ein harweinwyr ac un arall ar gyfer y gweddill ohonom ni. Fedrwn ni ddim cael ffydd yn y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud os na allwn ymddiried yn y prosesau sydd wedi arwain atyn nhw.”