Mae cyn-arweinydd cyngor wedi galw ar gynghorydd uchaf presennol Sir Benfro i “adael” yn sgil adroddiad beirniadol gan Archwilio Cymru.

Yr wythnos hon, cyhoeddwyd adolygiad o’r ffordd yr ymdriniwyd ag ymadawiad prif weithredwr y cyngor sir y llynedd – a’r taliad o £95,000 a dderbyniodd – a thynnwyd sylw at “fethiant llywodraethu difrifol”.

Ymatebodd y cyn-arweinydd, y Cynghorydd Jamie Adams, i’r adroddiad – tra ar daith i Dde Affrica – gan ei alw’n “ddyfarniad damniol yn erbyn gweinyddiaeth bresennol y glymblaid a’i Harweinydd”.

Ychwanegodd y Cynghorydd Adams, arweinydd y grŵp Annibynnol yn Neuadd y Sir: “Mae’r adroddiad yn tynnu sylw’n glir at benderfyniadau anghyfreithlon, diffyg atebolrwydd a thryloywder amlwg a thryloywder a oruchwyliwyd ac a gyfarwyddwyd gan y Cynghorydd David Simpson a’i weinyddiaeth.

“Wrth ddarllen yr adroddiad  mae’n amlwg bod y Cynghorydd David Simpson yn gwneud ei orau glas i roi’r bai ar eraill … arwydd clir o arweinydd euog a gwan.

“Mae angen i’r Cynghorydd Simpson fynd, i wneud lle i rywun sy’n ennyn parch a hyder yr etholwyr a’r Cyngor”.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro: “Cyfarfod y Cyngor ar y 1af o Chwefror 2022 yw’r fforwm priodol i’r mater hwn gael ei drafod yn ddemocrataidd mewn sesiwn gyhoeddus agored. Byddai’n amhriodol i gwestiynau pellach gael eu cymryd nes bod y broses honno wedi’i dilyn.”

Cysylltwyd â’r Cynghorydd Simpson am ymateb.

Adroddiad ar dâl o £95,000 i gyn-brif weithredwr cyngor yn canfod “methiant llywodraethu difrifol”

Katy Jenkins, Gohebydd Democratiaeth Leol a Gohebydd Golwg360

Canfu archwilwyr enghreifftiau o swyddogion yn methu â chyflawni eu dyletswyddau proffesiynol yn briodol, gan ddiystyru cyngor cyfreithiol allanol