Mae Mark Drakeford wedi dweud y byddai’n cymryd “ddig iawn” pe bai’n darganfod bod partïon wedi cael eu cynnal yn adeiladau Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig.
Yn dilyn diweddariad coronafeirws wythnosol ei lywodraeth ddydd Gwener, gofynnodd newyddiadurwyr i Brif Weinidog Cymru am bartïon a gynhaliwyd yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo.
Wrth sôn am y potensial i rywbeth tebyg ddigwydd o fewn adeiladau Llywodraeth Cymru, dywedodd: “Dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw bartïon nac unrhyw beth o’r fath.
“Pe bai digwyddiad o’r fath wedi bod, yna byddwn yn ddig iawn amdano.
“Dro ar ôl tro, rwyf wedi dod yma i ddweud fy mod yn credu bod gan bobl sy’n gwneud y rheolau gyfrifoldeb arbennig i sicrhau eu bod nhw eu hunain yn dilyn y rheolau.
“Dyna sut rydyn ni wedi ceisio ymddwyn yn Llywodraeth Cymru.”
Pan ofynnwyd iddo am yr ymchwiliad i’r digwyddiadau yn Rhif 10 sydd yng ngofal y gwas sifil Sue Gray, ychwanegodd: “Rwy’n adnabod Sue Gray, rwyf wedi bod yn edmygydd o’i galluoedd pan oedd yn gweithio yn Swyddfa Gogledd Iwerddon a byddem yn cysylltu â hi fel llywodraethau datganoledig.
“Fy marn i, o’r cychwyn cyntaf, yw y dylai’r adroddiad fod wedi cael ei roi i rywun sy’n gwbl annibynnol ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Dylai gael ei arwain gan farnwr, neu rywun yn y sefyllfa annibynnol honno.
“Rwy’n credu bod Sue Gray wedi cael ei rhoi mewn sefyllfa heriol iawn, a byddai wedi bod yn well pe bai rhyw fecanwaith arall, sy’n fwy clir, wedi cael ei roi ar waith.”
Mae Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, wedi annog pobl i aros am ganfyddiadau’r ymchwiliad, ond does dim amserlen wedi’i rhyddhau ar gyfer ei gyhoeddi.
Roedd Mr Drakeford yn siarad ar ôl manylu ar fap ffordd allan o gyfyngiadau coronafeirws Cymru.
Darllen rhagor
Mark Drakeford yn mynnu bod y dystiolaeth yn cyfiawnhau cyfyngiadau covid Llywodraeth Cymru
Boris Johnson yn parhau dan bwysau
Ymddiheuriad Boris Johnson wedi llwyddo i “dynnu ychydig o wynt allan o hwyliau’r dicter,” medd Guto Harri