Fe gafodd dynes o Lundain ddirwy o £12,000 am gynnal parti’r llynedd yn groes i reolau atal lledaenu covid oedd mewn grym ar y pryd.

Bu Vianna McKenzie-Bramble yn dathlu ei phen-blwydd gyda thua 40 o’i ffrindiau ar 17 Ebrill, 2021, ddiwrnod wedi i ddau barti gael eu cynnal gan staff yn rhif 10 Downing Street.

Roedd parti McKenzie-Bramble yn cynnwys castell bownsio yn Hackney, dwyrain Llundain, ac fe ddigwyddodd ar yr un diwrnod ag angladd Dug Caeredin yn Windsor.

Dyma’r angladd a gafodd ei fynychu gan Frenhines Lloegr yn gwisgo mwgwd ac yn ufuddhau i reolau ymbellhau cymdeithasol.

Fe gafodd McKenzie-Bramble gerydd gan yr heddlu am gynnal ei pharti tra bo gweddill y wlad yn galaru am y Tywysog Philip.

Mae bellach yn hysbys bod cynghorwyr a gweision sifil wedi dod ynghyd mewn dau barti gwahanol yn Downing Street ar y noson cyn yr angladd, ac mae Rhif 10 wedi ymddiheuro i Balas Buckingham am hyn.

Cyngor Llywodraeth Prydain ar y pryd oedd: “Rhaid i chi beidio cymdeithasu dan do oni bai gyda’ch aelwyd neu swigen gefnogol. Gallwch gyfarfod y tu allan, gan gynnwys mewn gerddi, mewn grwpiau o chwech neu ddwy aelwyd.”

Nid yw’r heddlu yn ymchwilio i bartïon Downing Street ar hyn o bryd – maen nhw yn aros i weld pa dystiolaeth ddaw i’r fei gan ymchwiliad Swyddfa’r Cabinet i’r mater.

Ond mae sawl aelod o’r gwrthbleidiau wedi udo na ddylai Swyddfa’r Cabinet – sy’n atebol i Boris Johnson – fod yn cynnal yr ymchwiliad yn y lle cyntaf.

Ac mae Vianna McKenzie-Bramble yn un o filoedd a gafodd eu dirwyo am fethu cadw at reolau covid, gyda sawl un yn edliw bod un rheol i Boris Johnson a’i staff, a rheol gwbl wahanol i’r gweddill.