Mae’r Frenhines Margrethe o Ddenmarc am gael sawl dathliad a hithau ar yr orsedd yno ers hanner canrif.

Ond mae’r dathliadau cyhoeddus ar gyfer y pen-blwydd heddiw (14 Ionawr) wedi’u gohirio tan fis Medi oherwydd y pandemig coronafeirws.

Fodd bynnag, bydd y ddynes 81 oed yn nodi’r achlysur trwy osod blodau ar fedd ei rhieni yng nghadeirlan Roskilde, i’r gorllewin o Copenhagen, lle mae brenhinoedd Denmarc wedi’u claddu ers 1559.

Yn gynharach yn y dydd, bu yn cwrdd â’r llywodraeth ac yn mynychu derbyniad yn y senedd.

Mae Margrethe yn boblogaidd gyda’r cyhoedd, ac fe ddangosodd arolwg barn yn 2014 fod dros 80% o bobol Denmarc yn cefnogi’r frenhiniaeth.

Nid yw cyfansoddiad Denmarc yn rhoi unrhyw bŵer gwleidyddol gwirioneddol i Margrethe.

“Fy mhrif dasg a’m tasg bwysicaf yw bod yn Frenhines Denmarc a phennaeth y wladwriaeth,” meddai mewn cyfweliad teledu diweddar.

“Ond rwy’n ddiolchgar y gallaf hefyd fynegi fy hun yn artistig.”