Mae teithwyr rheilffordd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu “yn unol â’i rhethreg” ar drafnidiaeth gyhoeddus yn y canolbarth.
Daw hyn ar ôl i gynlluniau gael eu cyhoeddi a fyddai’n gweld gwasanaethau trên ychwanegol yn cael eu cyflwyno mewn sawl rhan o Gymru a’r gororau.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys gwasanaeth cyson bob awr i bob gorsaf ar reilffordd y Cambrian rhwng Aberystwyth a’r Amwythig yn Lloegr.
Byddan nhw hefyd yn cynyddu’r nifer o gerbydau sydd ganddyn nhw ar gael i gario teithwyr er mwyn cyflawni’r gwasanaethau newydd yn effeithiol.
Dywed Cymdeithas Teithwyr Rheilffordd Amwythig i Aberystwyth (SARPA) mai “dechrau’r daith” ddylai’r cynlluniau fod “yn hytrach na’i therfyn,” ac y dylai’r llywodraeth wneud gwelliannau eraill er mwyn cyflawni system drafnidiaeth lwyddiannus.
Angen trenau “o safon” i ddenu ymwelwyr
Roedd SARPA yn awgrymu datblygu system drafnidiaeth integredig yng nghanolbarth Cymru, gyda theithiau pellter hir ar y rheilffordd yn cysylltu â bysiau lleol ym mhob gorsaf.
Fe gyfeirion nhw at systemau sydd ar waith mewn gwledydd ar y cyfandir yn Ewrop, gan gynnwys y Swistir, sy’n sicrhau bod cysylltiadau rheolaidd a dibynadwy rhwng bysiau, trenau a dulliau teithio cyhoeddus eraill.
Hefyd, fe wnaeth y gymdeithas alw ar y llywodraeth i sicrhau bod trenau “o safon” yn cael eu cyflwyno er mwyn denu ymwelwyr ar deithiau hamdden i’r canolbarth.
Roedden nhw hefyd yn siomi mai trenau diesel sy’n cael eu cyflwyno gan Drafnidiaeth Cymru yn hytrach na threnau trydan neu hydrogen, sy’n llai niweidiol i’r amgylchedd.
Opsiwn arall gafodd ei grybwyll oedd defnyddio trenau er mwyn datrys yr argyfwng cerbydau nwyddau trwm sy’n effeithio cadwyni cyflenwi yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.
Byddai trenau’n gallu cael eu defnyddio yn rheolaidd er mwyn cludo nwyddau ac anfon parseli ledled y wlad – datrysiad a fyddai hefyd yn lleihau allyriadau carbon, yn ôl SARPA.
‘Mae angen gweithredu’
Dywedodd cadeirydd SARPA, Jeff Smith, bod angen gweithredu yn dilyn yr addewidion.
“Mae’n iawn cael dogfennau polisi o 100 tudalen neu mwy sy’n swnio’n galonogol, ond yr hyn sy’n bwysig yw gweithredu ar lawr gwlad,” meddai.
“Fydd rhewi ac adolygu prosiectau ffyrdd sydd heb eu cychwyn eto a gosod targedau ar gyfer cynyddu defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn golygu dim os na fydd dim byd yn digwydd wedyn.
“Does dim modd parhau i ddweud y gair ‘metro’ a chyhoeddi mapiau lliwgar, mae angen gweithredu.”
‘Cynlluniau uchelgeisiol’
Pan gafodd y cynlluniau eu cadarnhau ychydig fisoedd yn ôl, dywedodd Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru, Colin Lea, ei fod yn hyderus y bydd y cynlluniau newydd “er budd y cymunedau ledled Cymru a’r gororau.”
“Ers y cyhoeddiadau gwreiddiol yn 2018, rydym wedi gweithio’n galed ac yn dechrau gweld y gwaith hwnnw’n dwyn ffrwyth – gyda’r trenau Pacer cyfan wedi’u heithrio’n gyfan gwbl o’r gwasanaeth a threnau newydd yn dechrau cael eu profi o amgylch Gogledd Cymru,” meddai.
“Fodd bynnag, mae’r pandemig wedi effeithio ar ein gallu i hyfforddi criwiau newydd ac wedi tarfu ar ein cadwyn gyflenwi mewn sawl ffordd.
“Er gwaethaf hyn, byddwn yn darparu rhai o’r gwasanaethau ychwanegol y gwnaethom ymrwymo iddynt nôl yn 2018, ond mae angen diwygio ychydig arnynt.
“At ei gilydd, bydd yr holl wasanaethau ychwanegol a ymrwymwyd iddynt yn 2018, dros 60 o wasanaethau newydd, yn cael eu hychwanegu at yr amserlen dros y blynyddoedd i ddod.
“Rydym yn parhau i fod yn hyderus y byddwn yn cyflawni’r cynlluniau uchelgeisiol sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru, gan gynnwys mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid er budd y cymunedau ledled Cymru a’r gororau.”