Mae llinell gymorth sydd wedi cefnogi cannoedd o unigolion yn y byd amaeth yng Nghymru, wedi cyrraedd carreg filltir heddiw gyda’r gwasanaeth bellach mewn bodolaeth ers pedair blynedd (dydd Sadwrn, 15 Ionawr).
Cafodd gwasanaeth Rhannwch y Baich ei ddechrau gan elusen iechyd meddwl Sefydliad DPJ yn Sir Benfro yn 2018, ac ers Hydref 2019, mae’r gwasanaeth bellach ar gael i amaethwyr ledled Cymru.
Mae’r llinell gyfrinachol ar gael bob awr o’r dydd a thrwy gydol yr wythnos, gyda gwirfoddolwyr sydd wedi eu hyfforddi yn cynnig cwnsela drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg i’r rheiny sydd ei angen.
‘Hynod falch o’r gwasanaeth’
Cafodd elusen DPJ ei sefydlu gan Emma Picton Jones dros bum mlynedd yn ôl, wedi i’w gŵr Daniel golli ei fywyd drwy hunanladdiad.
Roedd hi’n sôn am ei balchder bod gwasanaeth Rhannwch y Baich wedi tyfu i’r fath raddau.
“Wnes i erioed ddychmygu y byddai’r syniad o ddarparu cwnsela am ddim i’r rhai yn y gymuned amaethyddol wedi mynd mor bell ag y mae wedi’i wneud pedair blynedd yn ôl,” meddai.
“Rwyf yn hynod falch o’r gwasanaeth hwn: mae gwybod bod gan bob ffermwr yng Nghymru fynediad at gwnsela am ddim, boed gartref, ar y fferm neu yn yr ardal leol yn rhywbeth na allem fod wedi breuddwydio amdano erioed.
“Rwyf mor ddiolchgar i’n holl wirfoddolwyr gwych sydd wedi darparu oriau o gefnogaeth ar y llinell alwadau dros y pedair blynedd diwethaf.”
Aeth Emma ymlaen i sôn am sut mae’r gwasanaeth yn ei gwneud hi’n haws i amaethwyr gael cymorth yn anhysbys.
“Pan sefydlwyd Rhannwch Y Baich, roeddwn yn awyddus i sicrhau bod galwyr yn gwybod bod eu galwad yn gyfrinachol,” meddai.
“Dyma pam rydym ond yn gofyn am eich enw cyntaf a ddim eich cyfeiriad.
“Roeddwn hefyd yn ymwybodol o’r amseroedd aros hir felly rwyf yn falch iawn ein bod yn gwarantu mynediad at gwnsela am ddim o fewn wythnos i rywun sy’n gwneud yr alwad honno.”
‘Oriau gorau fy mywyd’
Bydd Sefydliad DPJ yn nodi’r garreg filltir drwy adrodd straeon rhai unigolion sydd wedi galw ar y gwasanaeth am gymorth, ar y cyfryngau cymdeithasol.
Un o’r rhain a ofynnodd am rannu ei stori yw Dan.
“Pan oedd fy iechyd meddwl ar ei waethaf, ni allwn weld ffordd allan,” meddai.
“Rwyf wedi cael cwnsela a dyma fu oriau gorau fy mywyd.
“Dw i mewn lle mor dda nawr dw i’n mwynhau pob rhan o fy nheulu a’m gwaith, yn cysgu’n dda, ac yn bwyta’n dda.”
Llinell gymorth
Ers ehangu i fod yn wasanaeth cenedlaethol yn 2019, mae tîm o tua 50 o gwnselwyr ar gael ledled Cymru.
“Mae ein cwnselwyr yn weithwyr proffesiynol cymwysedig a gallant helpu gydag pob math o faterion,” meddai Emma.
“Mae gennym arbenigwyr sydd wedi helpu pobl sy’n cael trafferth gyda phrofedigaeth, teimlo’n unig, delio â materion iechyd neu broblemau iechyd meddwl yn ogystal â’r rhai sydd wedi bod yn ystyried dod â’u bywyd eu hunain i ben.
“Mae gennym dîm gwych o wirfoddolwyr, cwnselwyr a staff ac rwyf mor falch ohonynt i gyd.”
Gall unrhyw un sydd eisiau cymorth drwy linell Rhannwch y Baich eu ffonio am ddim ar 0800 587 4262 neu anfon neges destun atyn nhw ar 07860 048 799.