“Eleni, bydd y ffordd rydyn ni’n rhentu yng Nghymru yn dod yn symlach ac yn fwy tryloyw,” yn ôl Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, wrth iddi gyhoeddi ei bwriad i weithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 o Orffennaf 15 eleni.

Dywed y Gweinidog mai dyma fydd “y newid mwyaf yn y gyfraith tai ers degawdau”.

Ymhlith y newidiadau a fydd yn dod i rym fel rhan o’r Dddeddf mae:

  • gorfodaeth ar bob landlord i ddarparu copi ysgrifenedig o gytundeb i’r tenant, a hwnnw’n amlinellu holl hawliau a dyletswyddau’r landlord a’r tenant.
  • Cyfnod o rybudd ‘heb fai’ yn codi o ddeufis i chwe mis, a fydd hi ddim yn bosib cyflwyno rhybudd yn ystod chwe mis cynta’r denantiaeth, sy’n golygu o leiaf 12 mis o sicrwydd ar ddechrau’r denantiaeth.
  • Mwy o ddyletswydd ar landlordiaid i sicrhau bod yr eiddo’n addas i fyw ynddo, gan gynnwys gosod larymau mwg a charbon monocsid, a gwirio teclynnau trydan yn rheolaidd.
  • Mynd i’r afael â’r arfer o roi rhybudd i denant am ofyn am drwsio rhywbeth neu am gwyno am amodau byw gwael.
  • Cyflwyno dull cyson ym mhob sector o ran troi tenantiaid allan os bydd achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu drais yn y cartref.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi lansio ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol a fydd yn sicrhau bod lanlordiaid a thenantiaid yn ymwybodol o’r newidiadau a ddaw i rym ymhen chwe mis.

“Y Ddeddf hon yw’r newid mwyaf yn y gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau,” meddai Julie James.

“Bydd y Ddeddf yn ei gwneud yn haws rhentu cartref yng Nghymru, gan ddisodli sawl deddfwriaeth a chyfraith achosion gymhleth amrywiol ag un fframwaith deddfwriaethol clir.

“Pan fydd wedi’i sefydlu, bydd gan ddeiliaid contractau yng Nghymru fwy o ddiogelwch o ran deiliadaeth na phobol yn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.”

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi lansio ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol a fydd yn sicrhau bod landlordiaid a thenantiaid yn ymwybodol o’r newidiadau a ddaw i rym o fis Gorffennaf 2022.