Mae daeargryn tanddŵr oddi ar arfordir Tonga wedi tynnu sylw at broblemau cyfathrebu ar yr ynys.

Mae lle i gredu na chafodd unrhyw un anafiadau yn y digwyddiad, ond dydy maint y difrod ddim yn glir eto.

Mae fideos ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos tonnau mawr mewn ardaloedd arfordirol yn bygwth tai ac adeiladau eraill.

Mae lluoedd arfog Seland Newydd yn monitro’r sefyllfa ac yn barod i helpu pe bai angen.

Mae rhybudd am tswnami yn weithredol ar draws yr ardal gyfan, ac mae data’n dangos tonnau hyd at 2.6m o uchder.

Cafodd trigolion lleol rybudd am y tswnami gan ddarlledwyr lleol a chlychau eglwys ar draws yr ardal, ond doedd system seiren fawr awyr agored ddim yn gweithio ar y pryd.

Roedd rhybuddion hefyd ar gyfer ynysoedd Ffiji a Samoa i bobol osgoi’r arfordir oherwydd grym y llanw a’r tonnau.

Mae’r awdurdodau yn Japan hefyd yn rhybuddio trigolion y bydd modd iddyn nhw deimlo rhywfaint o effeithiau’r digwyddiad, ond does dim disgwyl difrod.

Mae brenin Tonga wedi cael ei gludo o’i balas gan yr heddlu, wrth i bobol heidio allan o ardaloedd arfordirol i diroedd uwch.

Mae oddeutu 105,000 o bobol yn byw ar ynys Tonga.