Mae’r Ffermwyr Ifanc wedi cadarnhau y bydd eu Gwledd Adloniant yn cael ei gohirio eleni.
Roedd disgwyl i gystadleuwyr o glybiau ledled Cymru heidio i Theatr Y Dywysoges Frenhinol ym Mhort Talbot ym mis Mawrth er mwyn cymryd rhan mewn cystadlaethau arbennig.
Oherwydd pryderon cynyddol am Covid-19, a’r ansicrwydd ynghylch yr amrywiolyn Omicron, mae’r mudiad wedi penderfynu canslo’r digwyddiad am y tro.
“Yn anffodus, rydyn ni yn CFfI Cymru wedi penderfynu canslo’r wledd o adloniant a chystadleuaeth y pantomeim eleni oherwydd yr achosion cynyddol o Covid-19 ledled Cymru,” meddai’r mudiad.
Mae’r Wledd Adloniant flynyddol yn canolbwyntio ar ‘genre’ gwahanol bob blwyddyn, gan gylchdroi rhwng drama, pantomeim ac adloniant, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Eleni, roedd disgwyl i gystadleuwyr hyn ac iau gymryd rhan mewn cystadlaethau sy’n ymwneud â phantomeim, ond fydd hynny ddim yn bosib nawr o dan yr amgylchiadau.
‘Peth callaf a’r peth mwyaf diogel’
Mae Caryl Hâf o Geredigion, sy’n Gadeirydd ar y Ffermwyr Ifanc, yn dweud bod yr holl glybiau sirol wedi cytuno mai’r peth mwyaf synhwyrol fyddai gohirio.
“Fe wnaethon ni’r penderfyniad ar y cyd â swyddogion a staff sirol,” meddai wrth golwg360.
“Felly oedd pob sir yng Nghymru ynghlwm â’r penderfyniad. Fe alwon ni gyfarfod dros y we a’r penderfyniad wedyn rhwng yr holl siroedd mai’r peth callaf oedd gohirio’r pantomeim.
“Fe edrychon ni ar opsiynau i symud e ymlaen yn ystod y flwyddyn, ond gyda chalendr y Ffermwyr Ifanc mor brysur, roedd hi’n hollol amhosib i ddod o hyd i ddyddiadau lle byddai pob sir yn gallu cynnal eu cystadleuaeth, yn ogystal â’r gystadleuaeth CFfI Cymru.
“Ond hefyd wrth gwrs, roedd y ffaith ein bod ni ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd gyda’r rheoliadau wrth fynd ymlaen.
“Fe ddaethon ni i’r penderfyniad wedyn gyda’n gilydd mai’r peth callaf a’r peth mwyaf saff i’n haelodau ni, pob un sy’n helpu, a phob un fyddai’n dod i gefnogi’r mudiad oedd gohirio.”
Effeithiau’r pandemig
Mae’r pandemig wedi gadael ei ôl ar y Ffermwyr Ifanc, fel nifer o fudiadau eraill.
Fe welon nhw nifer eu haelodau yn gostwng y llynedd, gyda hanner y nifer arferol yn penderfynu cofrestru oherwydd nad oedd modd cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb.
Eglura Caryl fod y cyfyngiadau dros y ddwy flynedd diwethaf wedi ei gwneud hi’n anodd i’r mudiad.
“Mae’r rheoliadau wedi bod yn rhwystr i ni fel mudiad,” meddai.
“Rydyn ni wedi bod yn gwneud nifer o’n cystadlaethau ni ar-lein. Dydy e ddim yr un peth â gwneud y cystadlaethau wyneb yn wyneb, ond buon ni’n ddigon ffodus i allu gwneud hynny gyda’r Eisteddfod ym Mhontrhydfendigaid yn ddiweddar.
“Roedd hwnnw’n gyfle ffantastig i’n haelodau ni i allu bod yn ôl ar y llwyfan, ac rydyn ni’n gobeithio cynnal mwy o ddigwyddiadau yn ystod y misoedd sydd o’n blaenau ni.
“Mae gyda ni nifer o gystadlaethau sy’n cael eu cynnal tu allan megis y diwrnod maes a’r rali sirol. Mi fydd y rheiny gobeithio’n gallu mynd yn eu blaen fel arfer gan eu bod nhw’n cael eu cynnal y tu allan yn bennaf.
“Felly mae yna ddigon o gyfleoedd i’r aelodau.”
‘Diolchgar iawn i’r aelodau’
Wrth gyhoeddi eu bod nhw’n canslo’r Wledd Adloniant ym Mhort Talbot eleni, dywedodd y mudiad eu bod nhw’n “deall bod eu haelodau a’u gwirfoddolwyr wedi bod yn edrych ymlaen at y gystadleuaeth hon, yn enwedig ar ôl amser mor gythryblus”.
Er hynny, roedden nhw’n dweud bod “rhwymedigaeth foesol” arnyn nhw i sicrhau diogelwch eu haelodau a’r gymuned yn ehangach.
Yn ôl Caryl Hâf, y gobaith yw y bydd modd trefnu digwyddiad pantomeim eto y flwyddyn nesaf.
Byddai hynny’n gweld cystadleuwyr o wahanol siroedd yn cymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau yn ymwneud â’r testun hwnnw, gyda beirniaid adnabyddus a gwobrau cyffrous.
“Mae’r aelodau’n gweld yn union o le mae’r penderfyniad wedi dod o ran cadw pawb yn ddiogel,” meddai Caryl.
“Nid dim ond un ysgol sydd mewn un clwb, mae nifer o ysgolion, yn ogystal â phobol sy’n gweithio o’r tu allan, ac mae pob un ohonyn nhw wedi bod yn gefnogol o’r penderfyniad.
“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r aelodau am ddeall ein safbwyntiau ni ac rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n cymryd y cyfleoedd sy’n cael eu rhoi iddyn nhw o nawr ymlaen.”