“Doeddwn i ddim eisiau mentro ei gwneud hi ar chwarae bach”, meddai’r cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu Iwan Murley Roberts am fynd ati i greu rhaglen ddogfen am Anne Williams, un o’r ymgyrchwyr amlycaf yn y frwydr am gyfiawnder i deuluoedd y 97 fu farw yn nhrychineb Hillsborough yn 1989.
Mae Iwan, sy’n gyn-newyddiadurwr gydag ITV a’r BBC, yn gweithio ar ei liwt ei hun ers rhai blynyddoedd bellach, ac wedi creu sawl rhaglen ddogfen i’w darlledu ochr yn ochr â dramâu ar ITV – yn eu plith mae The Real Des am hanes y llofrudd Dennis Nilsen, a gafodd ei chwarae gan David Tennant yn y ddrama, a Code Blue sy’n dilyn hynt a helynt Heddlu’r De wrth iddyn nhw ymchwilio i lofruddiaethau.
The Real Anne: Unfinished Business yw ei brosiect diweddaraf i ddod i’r sgrîn, ac mae’n adrodd hanes mam Kevin Williams, bachgen 15 oed oedd ymhlith 97 o gefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl a gafodd eu lladd yn y stadiwm yn Sheffield ar Ebrill 15, 1989 wrth wylio’u tîm yn chwarae yn erbyn Nottingham Forest yn rownd gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr.
Maxine Peake, sy’n chwarae rhan Anne Williams yn y ddrama Anne, sy’n ddehongliad dramatig o’r digwyddiadau go iawn.
Yn y rhaglen ddogfen, mae hi hefyd yn clywed gan aelodau teulu Anne Williams.
Beth ddigwyddodd?
Wrth i dorfeydd ymgasglu y tu allan i’r stadiwm, daeth gorchymyn gan David Duckenfield, pennaeth yr heddlu ar ddyletswydd yn y gêm, y dylid agor gât i adael i’r cefnogwyr ddod i mewn, ond fe gawson nhw eu gwasgu wrth ruthro i mewn.
Yn dilyn y digwyddiad, roedd yr heddlu’n ceisio beio cefnogwyr meddw am y trychineb er bod Adroddiad Taylor yn 1990 yn dweud mai’r heddlu oedd ar fai ac fe gafodd yr honiadau eu hailadrodd a’u hybu gan y papur newydd The Sun.
Daeth y cwest gwreiddiol yn 1991 i’r casgliad bod y cefnogwyr wedi marw’n ddamweiniol a chafodd cais am ail gwest ei wrthod yn 1997, ac fe arweiniodd at sefydlu grwpiau ymgyrchu Ii bwyso am ymchwiliad o’r newydd.
Methodd erlyniad preifat yn 2000, ac yn 2009, cafodd ymchwiliad newydd ei sefydlu gan Banel Annibynnol Hillsborough dan arweiniad Esgob Lerpwl, ac fe arweiniodd eu gwaith at y penderfyniad i gynnal cwest o’r newydd ar sail gwaith Anne Williams yn bennaf.
Ond yn drist iawn, bu farw Anne Williams yn 2013.
Ar ddiwedd yr ail gwest, a gafodd ei gynnal rhwng 2014 a 2016, daethpwyd i’r casgliad i’r cefnogwyr gael eu lladd yn anghyfreithlon ond does neb wedi’i gael yn euog o droseddau’n ymwneud â’u marwolaethau hyd heddiw – ac eithrio Graham Mackrell, cyn-Ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Sheffield Wednesday, oedd yn euog o droseddau’n ymwneud ag iechyd a diogelwch.
“Anrhydedd” dweud stori Anne Williams
World Productions, y cwmni cynhyrchu oedd yn gyfrifol am y cyfresi Line of Duty a Vigil i’r BBC, oedd yn gyfrifol am greu’r rhaglen ddogfen.
Yn ôl Iwan Murley Roberts, cafodd y ddrama ei ffilmio tair blynedd yn ôl ond doedd dim modd iddi gael ei darlledu tan bod yr holl achosion llys yn dod i ben. A phan ddaeth y cyfle i gynhyrchu’r rhaglen ddogfen, achubodd e ar y cyfle.
“Wrth gwrs wnes i ddweud ‘Ie’, er bod o’n bwnc eitha’ heriol i’w wneud,” meddai wrth golwg360.
“Dydych chi ddim eisiau mentro’i gwneud hi ar chwarae bach.
“Ond mae’n anrhydedd cael trio dweud stori Anne Williams gorau fyswn i’n gallu. Roedd hynna fis Chwefror dwytha’, ac aeth hi allan ym mis Ionawr rŵan.
“Doeddwn i ddim yn arbenigwr o gwbl yn y maes, roeddwn i’n gwybod am y trychineb ei hun a’r ail drychineb, sef y cover-up wedyn ddigwyddodd i gelu’r gwirionedd ac i stopio’r teuluoedd gael y canlyniad cwest roeddwn nhw eisiau, sef unlawful killing.
“Ond doeddwn i ddim yn gwybod y manylion go iawn. Dw i’n cofio watsiad drama Jimmy McGovern, Hillsborough, pan o’n i’n ifanc yn y 90au ac roedd hi’n ofnadwy o stori.
“Y dasg oedd i ddweud ychydig mwy o’r hanes, a dweud y gwir.”
Cwblhau’r stori
Mae’r ddrama’n gorffen gyda marwolaeth Anne, gan egluro ar ffurf testun ar y sgrîn beth ddigwyddodd yn y blynyddoedd wedyn, wrth i’r teuluoedd barhau i frwydro am gyfiawnder.
Tasg Iwan fel cynhyrchydd y rhaglen ddogfen oedd cwblhau’r stori i gynnwys y cwest o’r newydd a ddaeth yn sgil gwaith Anne Williams a’r ymgyrchwyr eraill. Ond roedd angen ailadrodd cynnwys y ddrama hefyd, fel yr eglura.
“Pan maen nhw’n gofyn i chi wneud dogfen, rydach chi’n gorfod gwneud o i bawb, i bobol sydd heb wylio’r ddrama, so oedd o’n gorfod dweud elfen o’r stori oedd wedi cael ei dweud dros bedair noson am hanes Anne, ond wedyn ei diweddaru hi,” meddai.
“Roedd y ddrama’n gorffen pan wnaeth Anne farw yn Ebrill 2013 ac wedyn fy nhasg i oedd sôn am y cwest a ddaeth yn sgil ei gwaith hi ac wrth gwrs, yn sgil gwaith y teuluoedd eraill ac wedyn adrodd am yr achosion llys wnaeth ddigwydd yn dilyn hynny.
“Roedd pedair awr i ddweud stori o 1989 i 2013, ac roedd genna i ddim ond awr i ddweud y stori yna hefyd yn ychwanegol.”
Y bobol go iawn tu ôl i’r cymeriadau
Yn ôl Iwan, mae rhaglen ddogfen fel hon yn rhoi’r cyfle i bobol weld y wynebau go iawn y tu ôl i actorion fel Maxine Peake, wnaeth chwarae’r prif gymeriad Anne Williams.
“Maen nhw’n cael eu portreadu gan actorion, a dwi’n meddwl bod cael y ddogfen yn dangos bod rhain yn bobol wir – dyma’r lluniau archif oedd wedi cael eu darlunio yn y ddrama sydd wedi cael eu hailsaethu gydag actorion, so dw i’n meddwl fod o’n dod â chysylltiad real wrth gael rhaglen ddogfen i fynd gyda’r ddrama,” meddai.
“Pobol sydd yn bwysig wrth wneud rhaglenni teledu. Ro’n i’n gweithio gydag is-gynhyrchydd arbennig iawn, newyddiadurwr o’r enw Dan Kay oedd wedi ysgrifennu llyfr amdan Anne Williams gyda’i merch hi, Sarah.
“A hefyd uwch gynhyrchydd y ddrama oedd awdur y ddrama, Kevin Sampson. Felly o ran y diffyg gwybodaeth a’r manylion doedd gennyf fi ddim, ro’n i’n gweithio efo pobol oedd gyda’r manylion yna ac yn gwybod beth oedd y ffordd roedden nhw eisiau symud ymlaen a pha stori roedden nhw eisiau ei dweud.
“Trwyddyn nhw, wnes i gyfarfod â nifer fawr iawn o bobol oedd wedi byw drwy’r trychineb a nifer oedd wedi colli aelodau o’u teulu nhw yno.
“Mae’n dasg anodd iawn achos awr oedd gennon ni ac roedd angen plethu lot o bethau yn yr awr yna. Dydy pawb ddim wedi siarad ar y sgrîn, ac rydych chi’n gorfod cyfarfod siarad efo pawb a chael dealltwriaeth a ffeindio llond llaw fysa’n gallu crynhoi’r grŵp ehangach roedden ni wedi siarad gyda nhw.
“Roedd Charlotte Hennessy wedi colli’i thad hi pan oedd hi’n ferch ifanc ac mae hi’n byw yn y Fflint rŵan. Roedd hi’n cynrychioli’r rheiny oedd wedi dod yn hwyr i’r ymgyrch. Doedd hi ddim yn gwybod llawer am ei thad hi, ac roedd Anne wedi’i helpu hi i ddarganfod mwy.
“Ro’n i’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn cael rhywun fel hi oedd yn cynrychioli rheiny oedd wedi colli teulu ond rheiny oedd ddim yn gwybod lot ar y dechrau, lle’r oedd Anne wedi’u tynnu nhw i mewn ac wedi rhoi’r hyder iddyn nhw allu darganfod mwy. Roedd Charlotte, ar ôl Anne, wedi dod yn amlwg yn yr ymgyrch.
“Ro’n i’n awyddus iawn i gael unigolion oedd wedi byw trwyddo fo. Roedd stori Steve Hart sy’n cael ei phortreadu yn y ddrama yn un oedd yn gweithio ar nifer o lefeloedd. Roedd o wedi byw drwyddi ac yn gallu siarad o’r persbectif yna ond hefyd, roedd o wedi helpu Kevin Williams ar y cae ar y diwrnod.”
Deunydd newydd am y tro cyntaf
Yn ystod y rhaglen ddogfen, roedd cyfle i glywed llais David Duckenfield, pennaeth yr heddlu yn Hillsborough, yn y llys am y tro cyntaf.
Yn ôl Iwan, roedd ITV yn chwilio am “rywbeth newydd, gwahanol sydd ddim wedi cael ei ddweud o’r blaen”, a dyma lle’r oedd ei gefndir fel newyddiadurwr wedi helpu i sicrhau’r elfen wreiddiol i’r stori.
“Dwi’n meddwl mai rhywbeth roedden nhw’n awyddus i’w gael tro yma oedd recordiau o David Duckenfield yn y cwest yn Warrington,” meddai.
“Doedd ei lais o’n cyfadde fod o wedi gwneud camgymeriadau ddim yn wedi cael ei chwarae’n gyhoeddus ar deledu cenedlaethol o’r blaen, ac felly roedd ychydig bach o waith newyddiadurol jyst i fi sicrhau ein bod ni’n gallu’u defnyddio nhw a’u bod nhw wedi cael eu rhyddhau’n swyddogol gan y llys. Roedd hynna wedi cymryd tipyn o waith, ond dwi’n falch ddaeth o achos dw i’n meddwl i’r ymchwilwyr a’r teuluoedd a’r rheiny oedd wedi byw trwyddo fo, roedd hi’n bwysig clywed ei lais a’i glywed o’n cyfadde’, er bod lot ohonyn nhw yn y cwest yn Warrington.”
Beth nesaf?
Ac yntau heb fod yn gweithio ar y rhaglen ddogfen ers y llynedd, bellach, mae sylw Iwan wedi troi at raglen am drosedd arall, y tro hwn gan Stephen Bouquet, y “Brighton cat killer”.
“Roedd o wedi’i gael yn euog o ymosod ar 16 cath rhwng 2018 a 2019,” meddai.
“Mae ITV wedi gofyn am ddogfen yn dweud sut wnaeth yr heddlu ei ddal o, felly dyna sydd ar y gweill ar hyn o bryd.
“Mae’n faes diddorol iawn oherwydd maen nhw’n boblogaidd iawn ar y teledu. Mae pobol yn licio’u gwylio nhw, wedyn mae’n cadw fi mewn gwaith.
“Ond mae o’n anrhydedd i allu cyfarfod rhai o’r bobol sydd, yn anffodus, wedi gorfod byw trwy rai o’r amseroedd anodd yma.
“Mae o’n ddiddorol iawn, a gobeithio dwi’n gallu gwneud cyfiawnder efo’r straeon yma a’u dweud nhw mewn ffordd sydd ddim yn rhy sensationalist.”